soddwr, arweinydd a beirniad. Ysgrifennodd ar gyfer côr a cherddorfa, a'i weithiau gorau yn y cyfeiriad hwn yw "He fell among thieves" a "Spirit of Delight." Cafodd y cyntaf y brif wobr yn Eisteddfod Genedlaethol y Barri (1920) ac oherwydd rhagwelediad Pwyllgor yr Eisteddfod, cafodd ei berfformiad cyntaf yn un o gyngherddau'r eisteddfod honno. Darlledwyd y ddau gyfansoddiad o Gymru yn 1938. Ysgrifennodd hefyd ddarnau swynol i gôr meibion. Y mwyaf adnabyddus ohonynt yw "The Arsenal at Springfield" a "The Inchcape Bell." Ceir ganddo hefyd ganeuon a rhanganau i gôr cymysg. Y mae "God of Dreams" ("Yr Hyfryd Wlad") yn un o'r rhanganau gorau a ysgrifennwyd erioed gan gyfansoddwr Cymreig.
Ganed E. T. DAVIES yn Nowlais yn 1879. Daeth yn olynydd i Harry Evans fel organydd yno yn 1906, a rhoes wasanaeth mawr i gerddoriaeth Cymru fyth er hynny. Ef yw un o'r beirniaid mwyaf poblogaidd heddiw, y mae'n llwyfannwr da, ac yn siaradwr rhugl yn Saesneg a Chymraeg. Nid yw'n gyfansoddwr toreithiog, ac nid ysgrifennodd unrhyw waith mawr, ond y mae ei ddarnau bychain (caneuon, rhanganau, darnau i biano a cherddoriaeth ystafell) wedi eu hysgrifennu'n firain a swynol. Gellir dywedyd mai ef yw'r cyfansoddwr mwyaf boddhaol yng Nghymru. Haedda glod uchel am ei waith yn rhinwedd ei swydd fel Cyfarwyddwr Cerddoriaeth yng Ngholeg y Brifysgol, Bangor—swydd yr ymneilltuodd ohoni'n ddiweddar. Gwnaeth waith da ar ran cerddoriaeth werin Cymru hefyd. Trefnodd nifer mawr o'n halawon gwerin ar gyfer unawdau lleisiol, côr, piano a llinynnau. Y mae i'w waith ar y cyfan ansawdd Gymreig gref, efallai oherwydd ei ddiddordeb byw mewn alawon gwerin, ac fe ddengys nodweddion artistig cerddor diffuant. Cafodd ddylanwad da ar ein cerddoriaeth yn ystod y deng mlynedd ar hugain diwethaf.
Ganed DAVID DE LLOYD yn Sgiwen, ger Castell Nedd, yn 1883. Sol-ffawr pybyr ydoedd yn nyddiau ei ieuenctid, a deil yn frwd dros y nodiant hwn hyd heddiw. Ond ni fodlonodd ar hynny, ac enillodd y radd Mus.Doc. (Dulyn) ers llawer blwyddyn. Am rai blynyddoedd bu'n organydd Capel Seion, Llanelli, ond yn 1926 ymddiswyddodd, er mwyn bod yn Athro Cerddoriaeth yng Ngholeg y Brifysgol, Aberystwyth, swydd y mae'n ei dal hyd heddiw. Ysgrifennodd