un neu ddau o bethau i gerddorfa'n unig, ond fe ymddengys yn fwy hoff o gyfansoddi i gôr nag i offerynnau. Y mae'n un o ychydig o gyfansoddwyr Cymru i ysgrifennu operâu, a rhoes inni ddwy opera bur ddiddorol, "Tir Na N'og" a "Gwenllian"—y ddwy ar destunau Cymreig. Ysgrifennwyd geiriau'r gyntaf gan y Dr. T. Gwynn Jones, ac ef ac Eurwedd sy'n gyfrifol am eiriau'r ail.
Ymysg ei weithiau eraill, y mae cantata i blant, "Dydd a Nos" a dau ddarn i gôr a cherddorfa. Ysgrifennwyd y naill, sef "Tu draw i'r llen," yn y dull modern, ac y mae'n gafael pan genir ef yn wirioneddol dda; cafodd y llall, sef "Cylch corawl o ganeuon gwerin" ei berfformio yn Eisteddfod Machynlleth (1937) a'r cyfansoddwr yn arwain, a gwnaeth argraff ffafriol iawn. Ysgrifennodd David de Lloyd nifer o ddarnau llai, yn cynnwys caneuon (a grybwyllwyd eisoes), trefniadau o alawon gwerin Cymreig, a rhanganau i wahanol leisiau. Y mae'n resyn mawr nad oes ganddo ragor ar gyfer cerddorfa'n unig, gan fod iddo ddawn heb amheuaeth yn y cyfeiriad hwn.
Trist yw sôn am MORFYDD OWEN, gan iddi farw mor ieuanc. Colled fawr i gerddoriaeth Cymru oedd colli talent mor addawol. Ganed hi yn Nhrefforest, ger Pontypridd, yn 1892. Yr oedd ei rhieni'n hoff o gerddoriaeth, a chafodd Morfydd wersi pan oedd yn blentyn, gan ddyfod yn ei blaen yn gyflym fel pianydd a chantores. Y piano oedd y gorau ganddi, a hyfforddwyd hi ar gyfer bod yn bianydd. Ni bu'n astudio canu o ddifrif nes cyrraedd tair ar hugain oed. Wedi ennill mewn rhai eisteddfodau lleol, cafodd ysgoloriaeth "Caradog" yn 1909, ac aeth i Goleg Caerdydd, lle y bu'n astudio cerddoriaeth o dan yr Athro David Evans am dair blynedd. Yna aeth i'r R.A.M. lle y cafodd yrfa ddisglair, gan ennill gwobrau am ganu a chyfansoddi. Yn 1913 rhannodd ysgoloriaeth "Goring Thomas" gydag Eric Grant, a'i rhan hi o'r ysgoloriaeth oedd £70 am y tair blynedd dilynol.
Bu farw yn 1918 pan nad oedd ond pump ar hugain oed, ar wyliau ym Mro Wyr. Yn ystod ei hoes fer, cyflawnodd Morfydd Owen lawer iawn, ac yr oedd ei marw yn ergyd greulon i'r rhai a fu'n gwylio gyrfa un a feddai ar dalent a oedd mor brin yn hanes ein gwlad. Ni allwn ond dychmygu sut y buasai wedi datblygu, a bod yn ddiolchgar am y cyfansoddiadau a adawodd ar ei hôl. Y mae peth ohonynt yn dyst o athrylith. Cynnwys ei gwaith bedwar ugain o ganeuon;