tua dwsin o ddarnau piano; "Romance" i ffidil a phiano; triawd offerynnol; amryw o bethau i gôr, ac ychydig i gerddorfa. Hefyd cyhoeddodd nifer o drefniadau o alawon gwerin.
"A Nocturne" a "Morfa Rhuddlan" (cathl symffonig) yw ei gweithiau mwyaf uchelgeisiol i gerddorfa. Clywyd y "Nocturne" am y tro cyntaf mewn cyngerdd a roddwyd gan y R.A.M. yn y Queen's Hall, Llundain, yn 1914. Cafodd dderbyniad neilltuol o dda gan feirniaid Llundain; darlledwyd ef ddwywaith. Y mae "Morfa Rhuddlan" (a seiliwyd ar yr hen alaw o'r un enw) yn weddol adnabyddus yng Nghymru, ac wedi ei berfformio lawer gwaith. Fel y "Nocturne" gwaith yn llawn addewid ydyw, yn hytrach na chyflawniad, ac ni allwn ond dyfalu am y fath gyfansoddiadau rhagorol a gawsem gan y ferch ddawnus hon, onibai iddi farw yng ngwanwyn ei bywyd. Ei chaneuon yw'r rhan aeddfetaf o'i gwaith, ac y maent ymysg ein trysorau mwyaf gwerthfawr. Dylent fod yn stoc pob un o'n cantorion Cymreig. Hyd yma cawsant eu hesgeuluso, er mawr golled i bawb a gâr gerddoriaeth.
PENNOD IX
HEDDIW
Yr ydym ni'r Cymry'n gynefin â chael ein canmol am ein canu, ac wedi ymffrostio erioed ein bod yn gwybod y gwahaniaeth rhwng canu da a chanu gwael; ond wrth drin cerddoriaeth y gerddorfa, nid ydym mor sicr ohonom ein hunain. Nid oes gennym gymaint o hyder, wrth ymdrin â cherddorfa, ag sydd gennym wrth ymwneuthur â chôr. Y rheswm am hyn yw inni erioed ymroi mwy i ganu â llais, nag i ganu offerynnau. Eithr heddiw, gwelir argoelion fod gennym fwy i'w ddweud wrth y gerddorfa, a'n bod yn barotach i'w gwerthfawrogi. Darlledu sydd yn cyfrif, i raddau mawr, am y gwelliant hwn. Oherwydd yn awr, gallwn wrando ar gerddorfeydd byd-enwog trwy'r radio. Hefyd cawn glywed llawer o gerddorfeydd enwog Lloegr sy'n cynnal cyngherddau yng Nghymru yn ystod y rhyfel.
Cafodd y gwelliant yn y cyfeiriad hwn effaith ar safle'r cyfansoddwr. Y mae swm yr hyn a gyfansoddwyd i gerddorfa