Tudalen:Cerddoriaeth yng Nghymru (Cyfres Pobun).djvu/67

Gwirwyd y dudalen hon

gosodiad o'r Magnificat i soprano a cherddorfa ; a "Gogoned- awg Arglwydd." Hyd y gwn i, y darn olaf hwn yw'r unig gynnig a roes ar ysgrifennu ar gyfer côr. Cymerwyd y geiriau o Lyfr Du Caerfyrddin, a'r cyfansoddwr ei hun a ysgrifennodd y geiriau Saesneg. Perfformiwyd a darlledwyd "The Song of Mary" a "Gogonedawg Arglwydd" am y tro cyntaf gan Margaret Rees, côr a cherddorfa'r B.B.C. yn Chwefror, 1945.

Un o Rosllannerchrugog yw ARWEL HUGHES, a ganed ef yn 1909. Aeth i Ysgol Ramadeg Rhiwabon, ac yn ddiweddarach i'r Royal College of Music lle y bu'n astudio cerddoriaeth o dan y Dr. Vaughan Williams. Yn ystod ei flwyddyn olaf yn y coleg, ymgymerodd â gwaith ychwanegol fel organydd a meistr y cor mewn eglwys yn Rhydychen, ac yn ddiau fe ddylanwadwyd arno gan y profiad a gafodd yno o gerddoriaeth grefyddol o'r math uchaf, a rhoes hyn rywbeth llym yn ei gerddoriaeth, a thuedd at gyfriniaeth grefyddol ar brydiau. Oherwydd afiechyd, bu'n rhaid iddo ymneilltuo o'i swydd yn Rhydychen, a chynghorwyd ef i gyrchu glan y môr. Aeth i Aberystwyth i'r pwrpas hwnnw, gan fwriadu ar yr un pryd raddio yno. Ond rhoes y cynllun hwn o'r neilltu pan benodwyd ef ar staff y B.B.C. yn 1935.

Nid yw Arwel Hughes yn gyfansoddwr toreithiog, ond y mae'n un cyflym. Y mae llawer o'r cyfrinydd yn ei natur, a gesyd iddo'i hun safon mor uchel, nes ei fod eisoes yn ymwrthod â'i weithiau cynnar. Ymysg y rhain y mae "Passacaglia" i gerddorfa, a berfformiwyd yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon (1935) o dan arweiniad y cyfansoddwr ei hun. Yr un fu tynged un neu ddau o gyfansoddiadau ystafell.

Ei waith pwysig cyntaf yw "Fantasia for Strings on an old Ecclesiastical Welsh Melody" a ysgrifennwyd yn 1937. Derbyniodd y cyfansoddwr y dôn gan y Dr. J. Lloyd Williams, ac iddo ef y cyflwynir y gwaith. Perfformiwyd ef droeon gan gynnwys y tro hwnnw yn Eisteddfod Machynlleth yn 1937, dan arweiniad Syr Adrian Boult. Cynhwyswyd ef yn rhaglen y Promenade Concerts yn 1939, ond oherwydd i'r rhyfel dorri allan, nis perfformiwyd. Cyn y rhyfel, yr oedd Arwel Hughes wedi dechrau ar waith ar ffurf oratorio i gôr a cherddorfa ar y testun Job, y geiriau gan T. Rowland Hughes. Dodwyd y gwaith o'r neilltu ar y pryd, ond y mae rhan helaeth ohono