Tudalen:Cerddoriaeth yng Nghymru (Cyfres Pobun).djvu/69

Gwirwyd y dudalen hon

lan." Perfformiwyd y blaenaf yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon (1935) â'r cyfansoddwr ei hun yn arwain. Yn ddiweddar yr ysgrifennodd "Variations on Morfa Rhuddlan," ac fe ddarlledwyd y gwaith hwn am y tro cyntaf ar ddydd Gŵyl Dewi 1945. Ysgrifennodd Mansel Thomas hefyd lawer o ganeuon swynol, a chyhoeddwyd rhai ohonynt. Ychwaneger rhanganau, darnau i'r piano, a llawer o drefniadau o alawon gwerin Cymreig ar gyfer gwahanol gyfuniadau o offerynnau.

Ganed DANIEL JENKIN JONES yn Sir Benfro yn 1913. Un o Aberaeron yw ei dad, Jenkin Jones, a chyfansoddodd rai anthemau a thonau cynulleidfaol. Symudodd y teulu i Abertawe pan oedd Daniel yn blentyn. Bu yn yr Ysgol Ramadeg yno. Enillodd ysgoloriaeth i Goleg y Brifysgol. Yr oedd o'r cychwyn yn awyddus i wneuthur cerddoriaeth yn alwedigaeth iddo, ond mynnodd ei rieni ganddo gymryd gradd yn y celfyddydau i ddechrau. Yn y cyfamser bu'n astudio cyfansoddi yn ei oriau hamdden, ac yr oedd wedi ysgrifennu amryw weithiau i gerddorfa. Ar ddiwedd ei gwrs coleg, symudodd ei deulu i Lundain, ac aeth yntau'n ddisgybl at Harry Farjeon yn y R.A.M. Yn fuan, enillodd. ysgoloriaeth Mendelssohn, a thrwy hynny gallodd astudio cerddoriaeth ar y cyfandir. Torrodd y rhyfel ar draws ei gwrs, ac aeth yn swyddog i'r lluoedd arfog.

Cyfansoddodd Daniel Jones lawer iawn, a'r rhan fwyaf o'i weithiau ar gyfer cerddorfa. Gan fod naws fodern i'w waith, ac felly'n anodd ei ddarllen a'i berfformio, fe welir nad y math o gerddoriaeth ydyw a ddaw'n boblogaidd ar unwaith, ond y mae er hynny yn nodedig o wreiddiol ac yn apelio mwy at y deall nag at y teimlad. Buasai rhoddi rhestr gyfan o'i weithiau yn myned â mwy o ofod nag sydd gennym yma, ond dylid crybwyll ei "Sorrows of Branwen," "Four Pastorales for Small Orchestra," "Five Pieces for Orchestra" a "Comedy Overture." Darlledwyd yr olaf yn 1944 gan Gerddorfa'r B.B.C. yn y Gogledd. Y mae i Daniel Jones ddoniau eithriadol, a chefndir cerddorol a diwylliadol eang, a hawdd y gellir credu yr hyn a ragfynegodd y Dr. Vaughan Thomas amdano, sef y bydd yn un o gyfansoddwyr mwyaf Cymru.

Ymysg cyfansoddwyr Cymreig cyfoes eraill sydd wedi ysgrifennu gweithiau i gerddorfa, y mae Hubert Davies, Kenneth Harding, Heber Evans a Franklin Sparks.

Aelod o staff coleg Aberystwyth yw Hubert Davies, ac