Tudalen:Ceris y Pwll.pdf/102

Gwirwyd y dudalen hon

XIX. ING MEDDWL CERIS

YMHLTTH yr holl liaws ymwelwyr a ddaethant i Lwyn Ceris i ymweled ac i borthi cywreinrwydd, nid oedd neb yn cymeryd y fath ddyddordeb ag a gymerai'r Esgob Moelmud. Yr oedd wedi myfyrio llawer i geisio dad-ddyrysu'r dirgelwch oedd ynglŷn ag absenoldeb Ceris a Dona. Yn awr ar ôl dychweliad y ddau i Fon mewn dull mor ddieithr, ac heb un math o eglurhad oddiwrth y "gwr hysbys" na Bera, yr oedd y darganfyddiad mor anhawdd i'w ddeongli ag oedd yr achos o'r absenoldeb o'r blaen. Diben Bera yn hudo neu orfodi Ceris a Dona, os hi achosodd hynny gymeryd lle, oedd un o'r cwestiynau y ceisiai'r Esgob eu hateb. Y cwestiwn arall oedd,-pa fodd y gwnaed hynny? Yr oedd y ddau ofyniad yn llawn mor ddyrys i Ceris a Dona ag oeddynt i'r Esgob, yr hwn a gymerasai y fath drafferth ynglŷn â'r ymchwiliad. Nid oedd Ceris a Dona hyd hynny wedi gallu casglu digon o ymadferthiad i'w galluogi i ymresymu, na