Tudalen:Ceris y Pwll.pdf/105

Gwirwyd y dudalen hon

anesboniadwy, os nad yn gysylltiol â Bera, wedi bod yn dy yrru di o amgylch fel ysgall gan wynt."

"Gwarchod ni," meddai Ceris, "peth ofnadwy yw meddwl fy mod i heb ewyllysio yn syrthio i afael olwyn ewyllys un arall. A yw hynny yn bosibl?"

"Ydyw," meddai'r Esgob, " os na wyliwn ni rhag profedigaeth." "A wyt ti yn dweyd fy mod i, mi a Dona, 'wedi bod yn llaw Bera fel pe buasem Morgan a Chesair, a myned o amgylch i leoedd na wyr neb ond y widdan i ble?"

"Ydwyf, yr wyf yn gwybod fod yna alluoedd dirgel a da yn ein llywio i borthladd tawel, tra mae yna alluoedd tra gwahanol, gyda chydsyniad ewyllys gyfeiliornus, yn gyrru y llong i greigiau danheddog a llongddrylliad. Mae yna amrywiol gyfeiriadau yn y cyfrolau at rai yn meddu ewyllys gryfach nag eraill, a thrwy hynny yn gallu dylanwadu ar eraill, a gwneyd offerynnau o honynt, er da neu er drwg. Nid wyf fi mewn sefyllfa i esbonio pethau fel hyn yn athronyddol, ymhellach na cheisio trwy fy esiampl a fy addysg ddylanwadu er da. Dysgir ni yn yr