Tudalen:Ceris y Pwll.pdf/14

Gwirwyd y dudalen hon

â Rhufain. Cadarnheir hyn gan draddodiadau ynghylch cloddfeydd Rhufeinig Mynydd Parys, a rhwydwaith o ffyrdd Rhufeinig yn y parthau mwyaf dyrus o Ogledd Cymru.

Yn y cyfnodau dan sylw tybir i wareiddiad Rhufeinig effeithio yn fawr a llesol ar Gymru, er nad i'r un graddau ag a wnaeth yn y rhannau eraill o Rufain Brydeinig. Y cyfoeth mwnawl a demtiodd y Rhufeiniaid i dalu ymweliad mwy arosol â'r parth o'r Ymherodraeth a alwn ni yn Gymru, na'r ymgyrch y cyfeiriwyd ato uchod. Ni oresgynnwyd Cymru, mae’n debyg, yn yr ystyr ag y meddiannwyd hi yn fwy diweddar gan y Brythoniaid, y rhai a orfodwyd, feallai, gan yr Angliaid i adael Gogledd Lloegr ac ymfudo i Ogledd Cymru.

Yn yr hanes dilynol y mae a wnelom ni yn bennaf â Mon mewn cyfnod amhenodol na ellir yn hawdd ei gyfyngu tu fewn i gylch dyddiau neu amserau adnabyddus. Gan fod cyn lleied ymddiried yn cael ei roddi gan haneswyr i'r hanes henafol, a chan fod gwahanu hanes oddiwrth chwedloniaeth yn orchwyl dyrus, y mae yn anhawdd gwybod beth sydd ffaith a beth sydd ffug; ond y mae i ni ychydig