Tudalen:Ceris y Pwll.pdf/43

Gwirwyd y dudalen hon

sydd a'u bryd ar ruthro i lannau y Fenai drwy Fwlch y Ddeufaen. Bydd digon o waith i'r Afanc wylio Bwlch y Tryfan. Bydd gorfod i Gidwm y Mynyddfawr aros adref i edrych ar ol ei fylchau rhag i feibion Dunodig ac Ardudwy ddifrodi tir Machno a Dolwyddelan, a goresgyn Lleyn. Felly nid oes yn aros ond Serigi o Ddinas Emrys."

"Ni freuddwydiais i fod y perygl mor fawr," ebai Ceris, " wrth dy wrando di gallwn feddwl fod y diwedd wrth ein drysau. A ydyw yn bosibl i'r Brythoniaid ymuno fel un gwr, a gwneyd un ymosodiad mawr gorlethol arnom?"

"Dyna'r posibilrwydd sydd yn ein bwgwth. Nid yw Caswallon er ei holl lwyddiant i gyd ond un ran fechan o'r perygl. Gwn y gwnaf dy synnu pe bawn, fel un sy'n caru heddwch o flaen galanastra rhyfel, dy gynghori i arfer dy ddylanwad i geisio cadoediad, os try Caswallon ei fryd tuag yma, fel mae'n sicr bellach o wneyd, er mwyn i ni wybod ar ba delerau y cawn ni feddiannu ein hetifeddiaeth a'n breintiau Goidelìg yn y dyfodol."

"Yr ydwyf oedd ateb Ceris, "yn meddwl fy mod yn gweld y perygl o