Tudalen:Ceris y Pwll.pdf/74

Gwirwyd y dudalen hon

gysegroedd, a adeiladwyd mewn lleoedd tawel a nodedig ffafriol i fywyd eglwysig y Cildŷwyr, y rhai a ymgasglent o bosibl yn deuluoedd crefyddol o amgylch eu cysegrfeydd, heb ddilyn rheolau caeth bywyd monachaidd a ddilynwyd, ac a ddilynir gan grefyddwyr neilltuol oesoedd diweddarach. Yr oedd y ciliau y cyfeirir atynt yn gyffredin ar lan y môr, mewn cilfachau neilltuedig yn aml. Fe allai y cymerid mantais o longau a morwriaeth i ddal cymundeb rhwng cil a chil a gydnabyddent awdurdod yr un abad neu dad eglwysig. Nid addysg yn ei ystyr helaethaf a gyfrennid yn y ciliau cyntaf, ond ymgynnull yn bennaf wnâi y cynulleidfaoedd hynny o dan arweiniad y tadau Goidelig mewn ymarferiadau crefyddol, neu wasanaethau, cyffelyb o ran diben i addoldai cyffredin presennol.

Yr ail ddosbarth y cyfeirir atynt oeddynt dadau Brythonig a arferent eu dulliau eu hunain o addoli. Yn ddiweddarach nag adeg y Ciliau y cyfeiriwyd atynt, ymddangosodd y ddau ddosbarth, yn gyntaf, gweinidogion neu fugeiliaid y cynulleidfaoedd, a arweinient yn yr addoliad lleol: yn ail, athrawon y sefydliadau