Tudalen:Ceris y Pwll.pdf/76

Gwirwyd y dudalen hon

Ceisir egluro y pethau hyn, nid i geisio argyhoeddi yn grefyddol, ond er mwyn ymdrechu i daflu peth goleuni ar gwestiynau a ymddangosant yn ddyrus. Mae y cwestiwn crefyddol yn cael ei egluro mewn rhan helaeth yn hanes ymdrechion Dewi Sant i ddwyn cydgordiad crefyddol rhwng y Goidelod a'r Brythoniaid yng Nghymru, yr hyn a gwblhawyd yn heddychol yng Nghynhadledd Llanddewi Brefi. Mae Cymru gyfan yn parhau i ganoneiddio Dewi fel ei nawddsant. Os cymhwysir yr hanes uchod at ddigwyddiadau cyffelyb ym Mon gellir tybio fod yna ryw effaith larieiddiol yn ein gwlad a rwystrodd i chwyldroad Caswallon dorri allan yn rhyfel gartrefol ddifrifol. Yn yr hanes tywyll ac unochrog a geir o ddigwyddiadau ym Mon yn y cyfnod hwnnw, deallwn fod yna beth ymladd wedi cymeryd lle, fel y dywedwyd, yng ngogledd yr ynys: a chesglir fod yna ryw faint o ymryson hefyd am beth amser rhwng y blaid oruchaf ym Mon â byddin o Goidelod o goedwigoedd a mynyddoedd yr Eryri dan arweiniad rhyw bennaeth Goidelig a elwir Serigi, o Ddinas Emrys, lle bu gynt, yn ôl chwedloniaeth, ymryson rhwng cewri a