Tudalen:Ceris y Pwll.pdf/77

Gwirwyd y dudalen hon

dewiniaid, yng nghyfnod tra thywyll y traddodiadau. Dygwyd i mewn i'r stori bresennol hanes Bera y Widdan, neu y Wrach Ddu, yr hon broffesai ryw fath o dderwyddiaeth lygredig, yr hon er nad oedd iddi ddilynwyr proffesedig, eto, fel ei thras bob amser, a allai trwy hudoliaeth, ac feallai rhyw gymaint o allu dewiniol, greu offerynnau o'r werin anwybodus a galluoedd ereill, i daflu y wlad i ddyryswch er mwyn dwyn oddiamgylch amcanion y ddynes gyfrwys.

Sylwyd o'r blaen ar ei hymffrost a'i darogan o lwyddiant yn erbyn Caswallon, yr hwn yn ei thyb hi oedd y blaenaf i syrthio yng nghwymp y blaid Frythonig. Gan ei bod yn ceisio defnyddio y Goidel i'w phwrpas ei hun nid amlygai beth fydd ai tynged ei chynorthwywyr os llwyddai hi yn ei hamcanion. Er i Bera ymweled â mynyddoedd a choedwigoedd, y rhai oeddynt eto ym meddiant y Goidelod, o'i Eryri i wyllt-leoedd Mawddwy, ni amlygwyd llawer o barodrwydd ar ran y mynyddwyr gwylltion i anturio i Fon bell er mwyn cosbi un bradwr tybiedig o blith llawer o Goidelod oeddynt wedi ymgydnabyddu digon a'r Brythoniaid i'w rhwystro