Tudalen:Ceris y Pwll.pdf/87

Gwirwyd y dudalen hon

Serigi wedi cyfarfod ei dynged yn nechreu y frwydr. Yr oedd —ei allu yn fwy o werth na chant o wyr. Ni chyfyd ei gyffelyb yn fuan eto yn Eryri."

"A oedd efe yn ddylanwadol iawn?" gofynnai yr Esgob.

"Oedd," atebai y Goidel," ganddo ef yr oedd agoriadau y bylchau. Ond paham y gwrandawodd ar Bera, ni wn i. Efallai mai ei dwyllo gafodd yntau gan yr ysbrydion sydd yn barod i ruthro i bob ymgyrch er mwyn ysbail."

"A oes llawer o gyfryw rai yn Eryri?"

"Oes," ebai y Goidel, "a'r rhai hynny sy'n dwyn arnom atdaliad prysur bob amser ar ôl iddynt ruthro y bylchau i wastadeddau y Brython. Ond y rhai heddychol fydd yn gorfod talu y ddirwy i'r Brython, o'r deadellau nesaf i law."

"A wyt ti yn ddiogel yn dy ddosbarth?" gofynnai'r Esgob.

"Ydwyf," ebai y Goidel, " oblegid yr wyf ar yr ochr iawn i Foel Siabod. Gwilliaid o dros y Foel fydd yn fy mlino i."

"Beth fydd dy foddion pan fyddi fwyaf llwyddiannus?"