XVII. DWY GENEDL
GADEWIR allan lawer o bethau amherthynasol o'r hanes, gan gyffwrdd yn unig ag anhebgorion. Dilynir yr Esgob yn ei deithiau a'i ymdrechion i ddilyn ei orchwyl fel Cristion, cymwynaswr, a chymydog i Geris a Dona.
Nid yw distawrwydd yn profi fod Iestyn a'i dad Maelog yn ddifraw, neu heb ddangos ymdrech i dreiddio i ddirgelwch sefyllfa anesboniadwy gwr cyhoeddus fel Ceris. Nid oedd un hysbysrwydd na goleuni tebygol i'w gael o unman. Dyna y rheswm na cheisiwyd dilyn hanes pob ymchwiliad i gyfeiriadau na choronwyd ag hysbysrwydd boddhaol. Trwy ddilyn yr Esgob y cafwyd yr ychydig oleuni ansicr, ond awgrymiadol, a roes amnaid i feddwl y gwr hwnnw fod a wnelai Bera ag absenoldeb Ceris a Dona.
Wedi ymgynghoriad rhwng yr Esgob a Iestyn penderfynwyd gosod yr holl amgylchiadau a'r amheuon ger bron y Tywysog, yr hwn roes bob anogaeth a chynhorthwy i geisio gwybodaeth a arweiniai i