Tudalen:Cerrig y Rhyd.pdf/13

Gwirwyd y dudalen hon

ond pedair oed, fydd hi ddim yn bedair tan y cynta o Fai, peth bach, O wnewch chi beidio gadael i'r cawr ei chael hi. Amen.”

Yr oedd Gwilym wedi cael anrheg o lyfr ystraeon gan ei ewythr ar ei ddydd pen blwydd; a rhyw gawr fyddai yn tramwyo'r wlad, gan gymeryd pawb a allai i'w garchar i'w pesgi, ac yna iddo gael eu bwyta, oedd y prif gymeriad yn y llyfr. Ac er hynny, y cawr fyddai fyth a hefyd ym meddwl Gwilym. Teimlai yn sicr mai i'w ddwylaw ef y syrthiai yn awr.

Yr oedd Babi wedi blino yn crio, a gwelai Gwilym fod ei llygaid bron a chau. Tynnodd ei siaced oddi am dano, a rhoddodd hi dros ei phen. Eisteddasant eill dau ar y fainc yng nghanol y cwch ; rhoddodd Gwilym ei fraich am ei chwaer, ac mewn ychydig funudau teimlai ei phen yn syrthio yn drwm ar ei ochr. Yr oedd Babi wedi anghofio popeth, yr oedd yn cysgu.

I lawr hefo'r lli yr elai'r cwch o hyd. Gwelai Gwilym y ser yn dod allan seren ar ol seren, fel llygaid yn dod i edrych arno, a'r lleuad yn codi y tu ol i'r coed ar lan yr afon. Yr oeddynt yn edrych yn ddig arno i gyd, yn ei gyhuddo am ddod a Babi i'r fath aflwydd. Yr oedd ar Gwilym eu hofn, a chuddiodd eì wyneb ar ben Babi. Yr oedd dylluan yn cwynfan yn y coed, a meddyliai Gwilym ei bod yn dweyd,—“Hogyn drwg—drwg—mae'r Cawr yn dwad—dwad—dwad.”

Ni wyddai Gwilym am faint o amser yr eisteddai fel hyn, na pha faint o ffordd yr oedd y cwch wedi myned, ond yr oedd yr amser a'r pellter i'w gweled yn hir iawn iddo. Yr oedd y lleuad wedi codi yn uchel iawn, pan, rhyngddo eî a'r goleu glir, y cododd cysgod mawr. Gwelodd