Tudalen:Cerrig y Rhyd.pdf/14

Gwirwyd y dudalen hon

Gwilym mai cwch oedd a rhywbeth mawr fel dyn yn sefyìl ynddo. Y Cawr, wrth gwrs! Tynhaodd ei fraich am Babi. Gwaeddodd y Cawr,—y fath lais! yr oedd fel taran ar y distawrwydd yng nghlyw Gwilym.

“Hylo, beth ydych chi yn wneyd y fan yma dwedwch? Yn eu gwelyau y dylai plant da fod yr amser yma.”

“O Mistar Cawr, peidiwch a gwneyd dim byd i Babi. Mae hi'n dda bob amser. Y fi sy'n hogyn drwg. Peth bach ydi hi. Cewch fynd a fi i'r carchar, ond peidiwch a gwneyd dim i Babi.”

“Aroswch dipyn bach, onid plant Mrs. Price sydd yma? Diar mi! Wel Gwilym, beth sy'n gwneyd iti feddwl fy mod am dy roì yn y carchar?”

Yr oedd Gwilym o hyd yn dal ei afael yn Babi. Nid oedd y ffaith fod y Cawr yn gwybod pwy oeddynt yn lleihau dim ar ei ofn, ond yn hytrach yn ei sicrhau, pe bai eisiau hynny, yn ei dyb am dano; canys yr oedd Cawr yn gwybod pob peth bob amser. Edrychai i fyny i'r gwyneb oedd yn plygu uwch ei ben ac meddai,—“Ydw i yn gwybod mai chi ydi'r Cawr mae fy llyfr yn deyd ei hanes ac y byddwch yn mynd a phlant bach i'ch carchar, ond O! peidiwch a mynd a Babi yno.” Chwarddodd y Cawr mor uchel, fel yr oedd yr adsain yn deffro ar bob llaw. “Felly yn wir,” meddai, “a dyna pwy ydw i? Wel, mi gewch weld. Dowch 'rwan.”

Gafaelodd yn Babi yn esmwyth iawn pan welodd ei bod yn cysgu a chododd hi i'r cwch yr oedd ynddo, ac yna cododd Gwilym ar ei hol. Rhoddodd ryg fawr flewog drostynt; ac