Tudalen:Cerrig y Rhyd.pdf/44

Gwirwyd y dudalen hon

cerddediad yn rhydd. Yr oedd eu llais yn ddwfn a nerthol. Ac yr ydoedd ef yn fychan ac eiddil, nid oedd yn llawer talach na Bronwen ei hun. Yr oedd wedi edrych yn nwfr gloew y ffynnon, ac yno y gwelai nad oedd iddo wynepryd tebyg i'w frodyr, yr helwyr. Yr oedd ei lygaid yn ddu, ei wallt yn ddu, a'i groen yn dywyll. Na, nid oedd modd i neb garu un fel efe, ac yr oedd calon Gruffydd yn drist.

Rhyw ddiwrnod tra ’roedd y tri brawd allan yn hela, daeth i'w cyfarfod hen wr a baich o briciau ar ei gefn. Pan bron wrth eu hymyl torrodd llinyn y baich, a syrthiodd yr oll o'r priciau ar y llawr. Chwarddodd y tri wrth weled trallod yr hen wr, a phan ofynnodd iddynt ei gynorthwyo i’w casglu at eu gilydd a’u rhwymo drachefn, atebodd un ohonynt yn wawdlyd fod ganddynt rywbeth gwell i’w wneyd nag ymdroi i hel priciau pob hen ddyn a ddigwyddai rwymo ei faich yn rhy lac, ac aethant ar hyd eu ffordd gan chwerthin a dynwared ei dristwch.

Nid oedd y diwrnod hwnnw yn un mor ffortunus i’r tri heliwr, a phan ddaeth y nos bu orfod iddynt droi eu gwynebau tua chartref a’u dwylaw yn weigion. Yr oedd eu tymer braidd yn flin, ac yr oeddynt yn newynog ac yn meddwl am y swper fyddai gan Bronwen i’w croesawu, ac mor felus fyddai gorffwys ar ol eu holl ofer grwydro drwy’r goedwig.

Ond beth oedd eu syndod pan ar ddyfod i olwg y bwthyn i ganfod fod pob ffenestr iddo yn dywyll, y drws yn gauad, a dim golwg ar Fronwen. Erbyn iddynt fyned i fewn i’r bwthyn cawsant yr aelwyd heb wreichionen o dân: ac yn lle y swper cysurus yr oeddynt yn ei ddisgwyl, bwrdd gwag, ac oerni, a thywyllwch.