Tudalen:Cerrig y Rhyd.pdf/49

Gwirwyd y dudalen hon

“Yr wyf wedi gweled dy frodyr yn cychwyn,” meddai, “ac wedi eu clywed yn dirmygu y ffon lwyd, ac am hynny ni lwyddant i ddwyn Bronwen gartref. Dos di i’r Goedwig Ddu, ac ni fydd dy daith yn ofer. Os bydd y ffordd yn galed paid a thorri dy galon. Byddi yn sicr o lwyddo yn y diwedd.”

A diflannodd gyda'r geiriau hyn o olwg Gruffydd. Aeth ef at y drws a cheisiodd ei agor, a gallodd wneyd hynny yn hawdd. Yna trodd yn ei ol a chymerodd y ffon yn ei law, a chychwynnodd tua'r Goedwig heb na bwa na saethau.

III. LLWYBR ENBYD.

Pan ddaeth y tri brawd at y Goedwig Ddu, yr oeddynt mewn petrusder i ba gyfeiriad i gychwyn er mwyn dod at blas y swynwr. Yr oedd Gwilym am gychwyn tua’r de, tra yr oedd y ddau arall am fynd tua’r gogledd. Fel yr oeddynt yn sefyll yn amhenderfynol, safodd Prydferth o’u blaen; a chan gyfeirio ei ffon arian tua’r ddaear, meddai hi,—“Welwch chwi y llinell o bridd coch yna, dilynwch y llinell a deuwch cyn hir at y plas lle y mae Bronwen eich chwaer wedi ei charcharu.”

Edrychodd y brodyr a gwelsant wrth eu traed linell o bridd coch fel gwaed, yr oedd yn rhedeg drwy y glaswellt ac yn disgleirio ar y ddaear ddu. Nid ydoedd yr helwyr erioed o'r blaen wedi gweled pridd o'r fath. Cychwynnodd y tri gyda’r llinell goch i mewn i gysgod tywyll y coed.

Pan ddaeth Gruffydd at gychwyniad y Goedwig Ddu, safodd yntau hefyd yn yr un benbleth oherwydd anwybodaeth pa lwybr i'w ddilyn. Ond yr oedd wedi penderfynu myned yn syth