Tudalen:Cerrig y Rhyd.pdf/55

Gwirwyd y dudalen hon

Wrth ei weled yn sefyll yn ddistaw heb ddweyd gair dywedodd y swynwr,—

“Yr wyt yn gweled nad oes gennyt ddim y gelli ei roddi am i mi ryddhau dy chwaer, ond y mae un ffordd arall y medri ei phrynnu. Os wyt ti yn foddlon i gymeryd ei lle yn y gell dywyll o dan y neuadd hon, mi a’i gollyngaf hi yn rhydd.” Petrusai Gruffydd ychydig cyn rhoddi ateb, nid am nad oedd yn foddlon i wneyd unrhyw beth dros Bronwen, ond yr oedd yn ceisio dyfalu pa fodd yr ai hi adref ar hyd y gwastadedd llydan a thrwy y Goedwig Ddu. Pwy fuasai yn ei harwain, oherwydd yr oedd y llinell goch wedi diflannu wedi iddo gyrraedd y plas? Tra yr ydoedd yn ceisio penderfynu pa un fyddai y goreu i Bronwen, ai dioddefiadau y gell dywyll ai yr oerni a'r gwres a'r holl flinder oedd o’i blaen cyn y caffai hi weled y bwthyn rhwng y môr a'r goedwig, clywai lais, yr hwn a adnabyddodd fel llais Prydferth yn dweyd,—

“Paid petruso, mi ofalaf fi am ddwyn Bronwen adref yn ddiogel.”

Yna atebodd Gruffydd y swynwr, gan amlygu ei foddlonrwydd i aros yno yn lle Bronwen. Cyn iddo ei gollwng hi o’r carchar trodd y swynwr at Ruffydd gan ddweyd,—

“Mae un peth eto. Pan weli di hi yn gadael y plas, dy adael di yma am byth, bydd raid i ti wenu, neu bydd y cyfan yn ofer, a byddaf yn ei chludo yn ol i’r gell,”

Addawodd Gruffydd y buasai yn ceisio gwenu wrth weled Bronwen yn cychwyn adref. Yna gorchymynnodd y swynwr i’w weision gyrchu Bronwen o’i charchar. A gwelodd Gruffydd hi yn sefyll wrth borth y neuadd. Ond nid oedd hi yn gallu ei weled, oherwydd fod y swynwr wedi dallu ei llygaid am y funud.