Tudalen:Cerrig y Rhyd.pdf/60

Gwirwyd y dudalen hon

ddywedent fod Gwen yn rhagori ar ei chwiorydd mewn prydferthwch, oherwydd yr oeddynt yn gwybod natur y llewyrch oedd yn ei llygaid, ac yn adnabod tynerwch ei dwylaw.

Ond daeth cwmwl mawr du dros dŷ gwych y gŵr cyfoethog, a thros yr ardd brydferth lle nythai y frongoch. Collodd y gŵr ei gyfoeth mewn un diwrnod, ac yr oedd raid iddo ef a'i deulu adael eu cartref urddasol, a myned i fyw i fwthyn bach mewn pentref gwledig filltiroedd o ffordd o'r dref. Ond y diwrnod cyn iddynt gychwyn i'w cartref newydd, tarawyd y tad â chlefyd marwol; ac ymhen ychydig ddyddiau yr oedd yn wir wedi ymadael â'i dŷ hardd, ond nid am y bwthyn bach yn y pentref. Yr oedd wedi myned i wlad nad oes neb yn dod yn ol oddiyno; a gorfu i'w wraig a'r tair chwaer fyned hebddo i'w cartref gwledig, a chalonnau trist yn eu mynwesau oherwydd colli un oedd anwyl ganddynt,—pur iawn oedd galar Gwen a'i mam; ond am y ddwy eneth arall, nid marwolaeth eu tad yn unig oedd yn peri i'r dagrau lifo mor chwerw dros eu gruddiau,—na, nid dros eu gruddiau chwaith, achos sychent hwy cyn iddynt dreiglo i lawr, rhag ofn i'w cyffyrddiad hallt wneyd ei ol ar eu gwynebau dirychau. Yr oeddynt yn wylo am golli eu gemau, eu dilladau gwych, am eu bod yn gorfod byw yn y bwthyn bach mewn pentref bychan gwledig, lle nad oedd cyngherddau a chynhulliadau eraill iddynt fyned i ddangos eu harddwch, ac yr oeddynt yn blino eu mam yn feunyddiol â'u grwgnach ac â'u tymer ddrwg am nad oedd ganddi fodd i roddi arian iddynt i gael gynau newydd, ac yr oedd eu grwgnach yn gadael ol ar eu gwynebau yn fwy o lawer na phe buasant yn gadael i'r dagrau lifo drostynt. Ac nid oedd yr