Tudalen:Cerrig y Rhyd.pdf/66

Gwirwyd y dudalen hon

ei llawenydd, oherwydd yr oedd yn gofidio yn aml na fuasent yn gallu mwynhau cyfoeth y blodau arian gyda hi a'i mam. Ac felly yr oedd ei chroesaw yn gynnes, ond yn cael ei derbyn gyda dagrau gan y ddwy chwaer. Ac o hynny allan yr oedd pawb yn hapus yn y ty hwnnw, a'r un ffordd y gymerent i fod felly i gyd.

Yr oedd yr ofer chwilio ymhlith blinderau y byd, a'r croesau yr oeddynt wedi gyfarfod ar y ffordd, wedi newid tymer y ddwy chwaer, a chyda gostyngeiddrwydd a diolchgarwch y dilynent Gwen ar hyd llwybrau addfwynder a charedigrwydd at eraill, a chawsant felly lawenydd newydd, yr hwn a ddisgleiriai ar eu gwynebau, gan eu gwneyd yn brydferthach nag erioed.