Tudalen:Chwalfa.djvu/101

Gwirwyd y dudalen hon

dyn wyt ti'n 'i ddisgrifio. Hm, efalla' mai gweiddi gormod yr ydan ni, wel'di. Paid â newid gair. Mi ro' i ffrâm o linella' duon am y braslun i dynnu sylw ato fo. Efalla'— pwy a ŵyr? y gwna'r rhain fwy o les i achos y dynion na myrdd o ysgrifa' tanllyd ... Gyda llaw, yr wyt ti wedi bod yma ers deufis bron. Petai'r streic yn dod i ben . . ." Edrychai'r Ap yn anghysurus: daethai'n hoff iawn o Dan erbyn hyn ac ni hoffai feddwl am y swyddfa hebddo.

"Ia? "

"Be' wnei di? Mynd yn ôl i'r Coleg pan fydd o'n agor? "

Dyna mae 'Nhad am imi 'i wneud.'

"A fo sy'n iawn, mae'n debyg. Mi liciwni dy gadw di yma mae'n rhaid imi ddweud, ond . . . Ochneidiodd, yna, fel pe mewn tôn obeithiol : Go ddu mae petha'n edrach tua Llechfaen 'na o hyd, yntê? Y naill ochor mor gyndyn â'r llall. Hm, 'faint bery hi eto, tybed?"

'Dyn a ŵyr. Ond un peth sy'n sicir." Cododd Dan y papur a ddaliai yn ei law a syllodd arno. "'Dydi dynion fel Robat Williams a 'J.H.' a 'Nhad ddim yn debyg o ildio, faint bynnag fydd rhif y Bradwyr. Mi safan' nhw fel y graig.'

(III)

Dydd Sul ydoedd. Paratoai Martha Ifans de, gan ddwyn i'r bwrdd bopeth a allai i'w wneud yn ddeniadol. Taflai olwg yn aml drwy ffenestr y gegin, gan ddisgwyl clywed clic y ddôr a gweld Megan yn dod drwyddi ac yn brysio ar hyd ĺlwybr yr ardd. Ond nid agorai'r ddôr.

Aethai rhyw bythefnos heibio er pan adawodd Ifor a Megan Gwynfa." Galwasai Megan droeon wedyn i weld ei mam, ac ymddangosai'n hapus bob tro. Yn rhy hapus, efallai, fel petai'n ymdrechu bob ennyd i swnio'n llawen. Yr oedd ei chwerthin yn rhy uchel ac yn rhy lon i fod yn naturiol, a pharablai bymtheg y dwsin. Ai wedyn i'r drws nesaf at Kate, ond er gwrando amdano, ni chlywai ei mam y chwerthin uchel oddi yno. Ai actio yr oedd yn ei chartref a rhoi'r gwir i Kate? Holodd Martha Ifans ei merch yng nghyfraith bob tro, ond yr oedd hi mor ofalus â Megan.

Clywodd sŵn y ddôr. Ond Gwyn a oedd yno, wedi rhuthro adref o'r Ysgol Sul.