Tudalen:Chwalfa.djvu/105

Gwirwyd y dudalen hon

Pam ydach chi'n gwneud yr esgus 'ma ynglŷn â'ch penglin?" gofynnodd Megan, gan fanteisio ar y cyfle i'w holi.

"Wel, i ddeud y gwir-ond 'wnei di ddim sôn gair, na wnei?

"Na wna".

"I ddeud y gwir, er pan mae'r helynt 'ma wedi dechra', mae'n gas gin' i fynd heibio Siloh i'r Eglwys. Mae 'na lot o betha' da yn yr Eglwys, cofia, ond . . . ond yn Siloh y magwyd fi, a rhywfodd—ond 'wnei di ddim sôn gair, na wnei?"

"Na wna'."

"Rhywfodd, mae Siloh fel 'tasa' fo'n sefyll dros chwara' teg i'r dynion a'r Eglwys dros . . . dros..."

"Dros be', Gruffydd Davies?"

Ond teimlai ef iddo ddweud gormod yn barod, a throes ymaith o'r gegin i eistedd yn anesmwyth a phryderus yn y parlwr. Aeth Megan ymlaen â'i gwaith o glirio'r brecwast a pharatoi'r cinio (Enillasai Letitia Davies forwyn dda, ddigyflog), ac yna mentrodd i fyny'r grisiau i gynnig, am yr ail waith, gwpanaid i Ifor. Ond, a'i ben fel pwced ar ôl y noson gynt, llonydd a oedd arno ef ei eisiau. Codai pan fyddai'r cinio'n barod, ac os meiddiai neb aflonyddu arno cyn hynny. . .

Pan ddaeth Megan i lawr y grisiau, blinasai Gruffydd Davies ar synfyfyrio yn y parlwr ac eisteddai yn y gegin fach. Ac yno y bu am hanner awr, yn ei gwylio heb ddywedyd gair. "'Wnei di... 'wnei di ddim sôn gair, na wnei?" meddai o'r diwedd.

"Diar annwl, na wna' . . . Wel, mae'r cig 'ma'n barod."

"Os medrwn ni gael tipyn o heddwch a thawelwch yn yr hen fyd 'ma, yntê?. . .

"Ia, am wn i, wir. Ond ... ond pam ydach chi'n mynd i'r Eglwys os ydi'r capal yn well gynnoch chi?"

"Wel, 'doedd Letitia-Mrs. Davies-ddim yn fodlon fy ngweld i-a hi oedd yn iawn, mae'n debyg-fy ngweld i'n aros yn dipyn o chwarelwr, ac yn meddwl-mae'n rhaid wrth ddylanwad yn y chwaral, fel y gwyddost ti-yn meddwl y basa' gin' i well siawns-ac yr oedd hi yn 'i lle, fel y troes petha' allan-well siawns i fod yn swyddog pe baem ni'n mynd i'r Eglwys Ond diar annwl, yr ydw' i'n deud petha' na ddylwn i eto. Petai Letitia-Mrs. Davies-yn gwbod fy mod i'n clebran fel hyn . . . "Tawodd, gan wlychu'i wefusau a syllu'n anniddig o'i gwmpas.