Tudalen:Chwalfa.djvu/109

Gwirwyd y dudalen hon

wnelai ef â'r helynt, yn dipyn o wron, yn hunan-gyfiawn, yn ŵr rhadlon, caredig, llawn cydymdeimlad, yn ceisio gwneud iawn am greulondeb digydwybod y ddau arall.

Yna torrodd yr ystorm eilwaith.

"'Ydach chi'n teimlo'n well 'rwan, Letitia?" gofynnodd ei gŵr.

Ydw', yr ydw' i'n dechra' dwad ataf fy hun. Mi eistedda' i'n dawal yma pnawn 'ma yn lle mynd i'r Ysgol Sul. Mi fydda' i'n iawn erbyn heno wedyn."

"Éfalla' y bydd eich cricmala' chitha' wedi mendio erbyn hynny, 'Nhad!" chwarddodd Ifor.

"Hy, cricmala'!" Taflodd Letitia ei phen i fyny mewn dirmyg. "Ond 'dydw' i ddim yn mynd i ista' fel pelican yn fy sêt yn yr Eglwys heno eto, dalltwch chi hynny."

"Fydd dim rhaid i chi, Letitia. Dowch i'r gadair freichia' 'ma 'rwan. Mi ro' inna' help llaw i Megan i glirio'r bwrdd. Dowch, imi gael rhoi'r glustog 'ma'n esmwyth o dan eich pen chi."

Cyn i Ruffydd Davies gychwyn i'r gegin fach hefo llond ei ddwylo o lestri, oedodd Ifor ennyd wrth danic'i sigaret i ddweud yn fawreddog: "Tra ydw' i'n cofio, 'Nhad, mae arna' i isio i chi wneud rhwbath bach trosta' inna' heno."

"O?

Be'?"

"Os gwelwch chi Price-Humphreys yn yr Eglwys, deudwch wrtho fo fod gin' i ddau arall iddo fo."

"Dau be?"

"Dau weithiwr, debyg iawn. Mi fùm i'n siarad hefo Now Pen'rallt a Bertie Lloyd neithiwr, a maen' nhw'n barod i ddechra' gweithio ar unwaith. Wel, mae'n deg i Price-Humphreys wbod mai fi sy wedi'u bachu nhw, ond ydi, 'Mam?"

"Ydi, debyg iawn, Ifor."

Wel . . . y . . . 'dydw' i ddim yn meddwl y . . . y ca'i gyfle arno fo heno," meddai Gruffydd Davies.

"Ddim cyfla?" gofynnodd Letitia, gan godi'i phen yn sydyn oddi ar y glustog. "Pam na chewch chi gyfla?"

Wel . . . y . . . mae o'n licio cael gair hefo'r Ficar ar ôl y gwasanaeth, a . . . a . . .

"Be' sy'n erbyn i chi aros amdano fo?"

Ateb Gruffydd Davies oedd troi ymaith i gludo'r llestri i'r gegin fach, a thaflodd Ifor a'i fam olwg awgrymog ar ei gilydd. Pan ddychwelodd ei gŵr, neidiodd Letitia yn ôl at y testun.