Tudalen:Chwalfa.djvu/11

Gwirwyd y dudalen hon

SEILIWYD rhai o brif ddigwyddiadau'r stori hon ar adroddiadau cyhoeddedig y cyfnod, ond llwyr ddychmygol yw pentref Llechfaen a'r cymeriadau oll. Diolchaf y tro hwn eto i'r Parch. D. Llewelyn Jones am ofalu bod y MS a'r proflenni'n ddi-fefl : hon yw'r bedwaredd nofel o'm heiddo iddo ymdrafferthu'n amyneddgar â hi, a mawr yw fy nyled iddo.

T.R. H.