Tudalen:Chwalfa.djvu/121

Gwirwyd y dudalen hon

i'm llaw i, ond heb ddeud gair. Mi agoris y papur yn slei bach, ac i mewn ynddo fo yr oedd darn o grystyn y dartan jam gafodd o hefo'i ginio. 'Roedd y crystyn yn rhy galad iddo fo, yn amlwg, oherwydd mi welwn ôl i ddannadd o ynddo fo lle'r oedd o wedi trio ac wedi methu 'i gnoi o. Ond crystyn da oedd o, er hynny. Dim ond y Ciaptan a'r Mêt oedd yn cael tartan jam i ginio."

"Llong yr un fath â hon oedd hi?" "Tua'r un maint, a thri mast.

"Ond bârc oedd y Maid. Sgwnar ydi hon."

"O." Nodiodd Llew yn gall. Gwyddai'r gwahaniaeth rhwng "Princes" a "Duchesses," enwau ar lechi yn y chwarel, ond nid oedd ganddo syniad yn y byd beth oedd bârc na sgwner.

"Paid ag edrach fel 'tasat ti'n dallt, cwb. Deud celwydd ydi hynny. Dyna un bai oedd ar yr hogyn arall. 'Roedd o'n gwbod popath... 'Wyddost ti p'run ydi'r mizzen-mast?"

"Na wn i, wir."

"Yr ola', y nesa' at starn y llong. Wel, mewn bârc mae'r hwylia' ar draws y llong, yn square-rigged ar y ddau fast cynta', ond ar hyd y llong, yn fore and aft, ar y llall."

"Ar y mizzen, chwedl chitha'?"

Ia, dyna chdi. Diawch, mi wnei di longwr, fachgan. Gwnei, 'nen' Duwc. Wel, mewn sgwnar fore and aft ydi'r Dau fast gan amla', ond mae gin' hon hwylia' i gyd fel rheol. dri, fel y gweli di."

"Ond bârc oedd y llong yr aethoch chi arni hi gynta'?" ' "Y Maid? Ia. Dyna iti long, 'ngwas i, dyna iti long! 'Rydw' i'n 'i chofio hi'n cael 'i lanshio. Ydw', 'nen' Duwc, fel 'tasa'r peth wedi digwydd ddoe ddwytha".

"Pryd oedd hynny?"

"Ymhell cyn dy eni di. A chyn geni dy dad, o ran hynny. Yn 1839, pan on i'n wyth oed. 'Ron i wedi bod yn 'i gwylio hi'n tyfu bob dydd am ddwy flynadd, y llong fwya' a'r hardda' oedd wedi'i hadeiladu erioed ym Mhorth Cybi acw. Llawar gwaith y bûm i a 'Dwalad' fy mrawd a rhai o'r hogia' eraill yn colli'r ysgol i fynd i gwarfod y ceffyla' oedd yn tynnu'r coed derw mawr i fyny'r gelltydd-wyth stalwyn bob tro, fachgan, a ninna'r hogia' yn helpu i wthio ac yn tagu ac yn tuchan am y gora' i ddangos mai ni oedd yn gyrru'r llwyth i fyny'r Allt Hir. Wedyn, bob dydd, mynd i lawr i helpu'r seiri—i estyn