Tudalen:Chwalfa.djvu/126

Gwirwyd y dudalen hon

i ostwng neu godi'r hwyliau, yn ôl mympwy'r gwynt. Ond llithrai'r llong ymlaen ar ei thaith, ac yn oriau mân un bore croeswyd y Lein, a bedyddiwyd Llew, yr unig un a oedd yn mynd trosti am y tro cyntaf, yn ôl braint a defod y môr. Fel petai'n codi o'r môr, dringodd Neifion, duw y dyfnder, dros y bow, a'i farf yn llaes llaes a rhaffau o wymon yn hongian ar bob rhan o'i gorff. Duw go fychan ydoedd, ond ar goesau byrion Simon Roberts yr oedd y bai am hynny. Dilynwyd ef gan ei weision, a'r gwymon yn drwm ar y rheini hefyd, ac yn eu plith yr oedd y dduwies hardd Amphitrite a'i gruddiau'n rhosynnau cain a llywethau'i gwallt-rhaffau wedi'u peintio'n aur, fwy neu lai-yn hongian i lawr hyd waelod ei chefn. Olsen, y llanc golygus, yswil, o Norwy, oedd y dduwies, a gwenai a nodiai braidd yn ffôl ar weddill y criw, gan ddal i ailadrodd yr un geiriau, "Goddag!" ("Dydd da!") a "Gud velsingne dig!" ("Duw a'ch bendithio chwi!"), heb allu meddwl, yn ei gyffro, am gyfarchiadau mwy addas i'r amgylchiad. Yna glanhawyd Llew cyn ei dderbyn yn aelod o gymdeithas santaidd Neifion. Sebonwyd ei wyneb yn dda ac eilliwyd ef â rasal bren enfawr. Yna hongiwyd bath o frasliain ar y dec, ac wedi ei roddi ef ynddo cafwyd dwylo a phwcedi parod i'w olchi'n lân cyn ei gyflwyno i'r duw Neifion. Derbyniodd Simon Roberts ef yn urddasol drwy gyhoeddi bod yn dda gynddeir' ganddo ei weld.

Ciliodd hiraeth Llew yn awr am ennyd, a gwenodd wrth gofio'r ddefod a'r drochfa a'r hwyl ar y bwrdd. Yr oedd tri diwrnod er hynny. Gwibiodd y llong ymlaen yn hapus am ddeuddydd wedyn, ond yna, tuag wyth o'r gloch y bore'r diwrnod hwnnw, torrodd ystorm enbyd a thaflwyd y Snowdon Eagle o uchaf clogwyni i ddyfnder hafnau o ddŵr gorffwyll ac yn ôl drachefn. Clywsai Llew yr hen William Parry yn adrodd am gorwynt ofnadwy a dorrodd dros y chwarel un prynhawn—pan yswatiai'r dynion fel llygod yn eu gwaliau o gyrraedd troellau gwallgof y llwch yng ngheg pob gwal, pan chwythid crawiau cyfain ar hyd y bonc, pan ysgubwyd gwagenni fel ceir gwyllt dros ambell domen, pan lechai'r creigwyr yn y caban-ymochel drwy'r prynhawn ac ymhell wedi'r caniad, pan gipiwyd y to oddi ar yr efail ym Mhonc-y-Ffrwd. Rhyw hyrddwynt felly, meddyliodd Llew, a geisiodd falu'r llong yn yfflon y diwrnod hwnnw. Ysgubwyd Olsen, y llanc breuddwydiol o Norwy, tros y bwrdd yn ystod y bore; snap-