Tudalen:Chwalfa.djvu/145

Gwirwyd y dudalen hon

neu o dŷ i dŷ yn rhoi'r byd a'r betws yn eu lle. Yn eiddgar am fod yn gwrtais a chyfeillgar ymhlith ei chymdogion newydd, gwrandawodd Kate arni am ddwy awr ar ddau o'r boreau cyntaf, ond wedi hynny dangosodd fod yn well ganddi fynd ymlaen â'i gwaith na hel straeon. O, merch ffroenuchel, ai e? meddai Molly wrthi'i hun, ac aeth ymaith i gyhoeddi'r newydd wrth rai o'i chyfeillion. Pa bryd y câi'r Wyddeles a'i thebyg amser i baratoi bwyd i'w thyaid o blant ac i'w gŵr pan ddôi ef adref o'r gwaith, ni allai Kate ddyfalu: yr oedd hi ar ben y drws neu'n clepian wrth wal y cefn neu yn nhŷ rhywun o fore tan nos. Nage, tan yr hwyr, oherwydd âi hithau, fel Jerry, yn bur rheolaidd i'r Crown, gan adael y plant ieuangaf yng ngofal y rhai hynaf.

Ond er y llwch a'r blerwch a'r sŵn i gyd, yr oedd Kate yn hapus. Galwai Siân, gwraig Dic Bugail, a Myfanwy Jenkins a rhai o wragedd y capel yn aml, a hoffodd bobl garedig Pentref Gwaith ar unwaith. Buan y dysgodd gadw tŷ i lowr yn hytrach nag i chwarelwr, a chwarddai Martha Ifans yn Llechfaen wrth ddarllen ei llythyrau am oruchwyliaeth y "twbyn" a phethau tebyg. Unwaith y caent eu dodrefn i mewn i'r tŷ ar y Twyn, gwyddai Kate y byddai hi a'i theulu ar ben eu digon. Ó, am gael dianc o olwg ac o aroglau'r afon fudr gerllaw!

Yna, yng nghanol Hydref, daeth y glaw.

"Gobeithio nad ydi hi ddim fel hyn yn y Sowth," meddai Martha Ifans ddydd ar ôl dydd fel y syllai ar y glaw yn ymdywallt tros Lechfaen, "a nhwtha'n byw mor agos i'r hen afon 'na."

"O, y mynyddoedd 'ma sy'n tynnu'r glaw," meddai ei gŵr i'w chysuro.

Ond yr oedd yr un fath ym Mhentref Gwaith, a thros ddiwedd yr wythnos honno taflai Idris a Kate lygaid pryderus at yr afon, a godai'n gyflym. Dydd Gwener a dydd Sadwrn a dydd Sul, tywalltai'r glaw i lawr yn ddi-baid, ac erbyn nos Sul yr oedd y dŵr tros y clwt o dir rhwng y tŷ a'r afon a thros y rhan fwyaf o'r ardd. Penderfynodd Idris nad âi i'r gwaith drannoeth, ond peidiodd y glaw yn y nos a chiliodd y llif o'r ardd.

"Yr ydw' i'n meddwl yr a' i i'r pwll wedi'r cwbwl, Kate," meddai Idris pan gododd. "Mae'r awyr yn ola' uwch y cefn heddiw. A mynd i lawr yn gyflym y mae'r afon."