Hei, Wil Cwcw, be' wt ti'n feddwl wt ti'n 'neud?" A chydiodd bachgen o'r enw Oswald Owen yn ysgwydd Wil. Os wt ti isio cwffas, dewisa di rywun at dy faint, 'nei di?"
"O, hylô, yr hen Os! Yr ydw' i wedi rhoi clustan iawn iddo fo 'rwan. Mi fydd hyn'na'n ddigon o wers iddo fo." A dechreuodd Wil gilio'n frysiog, gan feddwl croesi'r ffordd tua'i dŷ, er bod Os, oherwydd tlodi'i gartref yn awr, yn ddigon llwyd a thenau a gwantan yr olwg wrth ei ochr ef.
Y mae'n bur debyg y terfynasai'r helynt yn y fan honno oni bai am ymddangosiad Roli Llefrith. Yr oedd ef newydd adael yr ysgol ac yn lle mynd i'r chwarel, gan fod ei dad yn streiciwr cydwybodol-wedi cael gwaith i gario llefrith a chynorthwyo yn Nhyddyn Isaf, ffermdy wrth yr afon. Yn yr ysgol gwnaethai enw iddo'i hun fel ymladdwr, gan etifeddu dawn ei daid, yr hen Ifan Tomos, dyrnwr enwocaf yr ardal yn ei ddydd. Brysiodd yn awr at y dyrfa o blant.
"Be' sy, Os?" gofynnodd.
"Wil Cwcw ddaru daro Gwyn Ifans bach 'ma. Yn giaidd hefyd."
"'Roist ti un yn ôl iddo fo?
"Naddo. 'Dydi o ddim isio cwffio hefo fi."
"Nac ydi, mae'n debyg. Mae'n well gynno fo rywun llawar llai na fo'i hun. Hei, Wil Cwcw, tyd yma."
Ond yr oedd Wil erbyn hyn yr ochr arall i'r ffordd, wrth gât ei dŷ.
"Be' wt ti isio?" gofynnodd yn sur.
Ateb Roli oedd rhuthro ar draws y stryd. Ceisiodd Wil ddianc, ond gwrthodai'r gât agor mor rhwydd ag y dymunai, a chydiodd Roli ynddo cyn iddo lwyddo i fynd drwyddi. Arweiniwyd ef yn ôl at y dyrfa o blant.
"Isio cwffas wt ti?" meddai Roli. "Tyn dy gôt 'ta'. A chditha', Os."
"Ond 'd . . . . 'dydi Os ddim wedi g . . . gneud dim i mi," protestiodd Wil.
Ddim eto. Mi fydd mewn munud . . . Dal gôt Os iddo fo, Robin," gwaeddodd ar hogyn gerllaw. Ac ufuddhaodd Robin ar unwaith.
Erbyn hyn ffurfiai'r plant gylch cyffrous o'u hamgylch, a safai rhai o'r bechgyn hynaf ar y chwith, i gadw Wil rhag dianc. Nid ymrafael syml rhwng Wil ac Os oedd hwn: âi'r peth yn ddyfnach, gan fod un o'r ymladdwyr yn fab i Fradwr