Tudalen:Chwalfa.djvu/178

Gwirwyd y dudalen hon

Na, gwell fyth, galwai yn y tŷ i ddychwelyd "Caniadau Cymru" a gawsai yn fenthyg gan Emrys. Llonnodd drwyddo wrth gymryd y llyfr oddi ar y silff. Yr oedd un peth yn sicr, meddai wrtho'i hun fel y cerddai yn erbyn y rhewynt a chwipiai'r stryd; câi eistedd wrth danllwyth yng nghegin Mrs. Richards: yr oedd y teulu'n hoff o gysur. Ac efallai y byddai'r Ap yno heno-galwai weithiau ar nos Lun—a chythruddai Dan ef drwy sôn am y diwygiad yn hanes yr Eisteddfod Genedlaethol. I'r Ap, cysgod gwael o'r hyn a fu oedd yr Eisteddfod yn awr, heb gyrddau'r beirdd a digonedd o gwrw a baco, heb Dalhaiarn ac eraill yn feddw fawr, heb gynganeddu ac adrodd storïau a chanu uwch ysbrydiaeth y bir. Huawdl oedd ei atgofion am Eisteddfod Aberystwyth yn '65 ac un Caer yn '66, pan oedd pob bardd a llenor o unrhyw werth, meddai ef, wedi'i ysbrydoli gan ei bumed peint.

Clywodd Dan chwerthin merch ar y stryd gerllaw iddo. Gwen? Ai dau gariad heibio, ond ni allai weld eu hwynebau yn y tywyllwch. Arafodd ei gamau ac yna troes i'w dilyn, yn beiriannol bron. Aethant heibio i ffenestr olau ymhen ennyd, a theimlodd gyhyrau'i wyneb yn tynhau. Ia, Gwen oedd hi, ac am ei phen yr het goch â'r bluen wen ynddi. Pwy oedd y bachgen, tybed? Cerddodd yn gyflymach i fod yn nes atynt pan gyrhaeddent y lamp nwy yng ngwaelod y stryd. Yr argian, Cecil Humphreys, mab i fasnachwr llwyddiannus yn y dref. Ac nid hwn oedd y tro cyntaf iddo'i gweld hi yn ei gwmni. Beth yn y byd a welai Gwen yn y coegyn hwnnw? Ond yr oedd ganddo ddigon o arian i'w gwario, meddyliodd yn sur, gan droi'n reddfol i gyfeiriad ei lety. Oedd, mwy na digon o arian.

"Wrth y tân mae lle dyn heno, Dan, nid yn crwydro'r stryd," galwodd llais.

'O, hylô, Wmffra Jones. Hylô, Enoc."

Gydag Wmffra Jones, yr argraffydd bychan â chrwb ar ei gefn, yr oedd cysodydd o'r enw Enoc Roberts. Gwyddai Dan fod y ddau ar hynt sychedig tua'r "Black Boy" ac mai yno y byddent hyd oni ddôi'r amser, am un ar ddeg, i ddadlau'n ffyrnig â'r tafarnwr fod cloc y dref o leiaf hanner awr yn fuan. "Dangos o iddo fo, Enoc," meddai Wmffra, gan glwcian chwerthin ac aros o dan y lamp nwy nesaf.