Tudalen:Chwalfa.djvu/179

Gwirwyd y dudalen hon

Tynnodd Enoc gerdyn o boced du-fewn ei gôt a'i ddal o dan y golau. Chwarddodd Dan yntau pan ddarllenodd yr argraff a oedd arno: NID OES RAID I CHI FOD YN HANNAR CALL I WEITHIO YMA, OND MI FYDD HYNNY'N HELP GARW.

"Am i binio fo ar ddrws yr Ap bora 'fory," clwciodd Wmffra Jones.

Ymhen ennyd, fel y nesaent at ddrws agored y "Black Boy," "Hm, mae o mewn hwyl heno," ebe Enoc. A chlywent lais uchel yr Ap: "Wel, Dafydd Jones,' medda' fi wrtho fo pan oedd yr hers newydd yn mynd heibio yn sglein i gyd, mi fyddwch yn rêl gŵr bonheddig yng ngolwg pawb pan gewch reid yn hon'na.'" Rhuodd y gwrandawyr wrth y bar eu hedmygedd.

"Wel, nos dawch 'rwan, Dan," meddai Wmffra, gan droi tua'r drws.

"Mi ddo' i i mewn hefo chi am funud," ebe Dan yn sydyn. "Ia, wir, 'wnaiff p . . . p . . . peint bach ddim d . . . d . . . drwg iti ar noson mor oer." Codai'i syndod atal-dweud ar Wmffra Jones.

Nid ymunodd Dan â'r dyrfa o amgylch yr Ap wrth y bar, ond sleifiodd at fwrdd bychan yng nghongl yr ystafell. Eisteddodd Wmffra ac Enoc gydag ef, ac ymhen ennyd dug merch y tafarnwr, a gynorthwyai'i thad, dri pheint o gwrw iddynt. Talodd Wmffra.

Gwelai Dan y peint yn fawr iawn ac ni wyddai yn y byd sut y medrai ei ddihysbyddu.

"Iechyd da!" meddai'r ddau arall, gan gydio'n farus yn eu gwydrau.

"Iechyd da!" ebe yntau, gan yfed yn ffwndrus ac ofnus: ni hoffai flas y peth o gwbl.

Gwrandawodd ar yr Ap yn adrodd stori ddigrif am Llew Llwyfo, ac yna sylweddolodd fod gwydrau'r ddau arall yn wag a'r cwrw yn ei un ef ond chwarter modfedd yn is. Amneidiodd ar ferch y tafarnwr, a dug hi dri gwydraid eto i'r bwrdd a chasglu'r ddau wag i'w dwyn ymaith. Wrth dalu amdanynt yr oedd Dan yn rhy yswil i egluro mai am ddau wydraid, nid tri, y bwriadodd ofyn. Yfodd yn ddewr, ond araf oedd hynt y ddiod i lawr y gwydr. Dechreuodd siarad yn huawdl—i atal y ddau arall rhag yfed mor gyflym. Gwelsai mewn hen gopi o'r "Gwyliwr," meddai, hanes rhyw filiwnydd yn San Ffransisco yn cael deuddydd o garchar am boeri