Tudalen:Chwalfa.djvu/186

Gwirwyd y dudalen hon

Mrs. Morris, edrychai ymlaen yn eiddgar at ddiwedd yr wythnos, ond yn awr braidd yn anfoddog y paratoai i ddal y trên dau ar brynhawn Sadwrn. Ac fel y nesâi'r trên at Lechfaen, gwgai ar y niwl tragwyddol hyd y mynyddoedd uwchben ac ar dawelwch llwm, sarrug, creigiau a thomenni'r chwarel ar fin y pentref llwyd. A phob tro y cyrhaeddai "Gwynfa," ymddangosai gruddiau Gwyn yn fwy llwyd, Llew yn cnoi'i ewinedd yn fwy a mwy anniddig, sirioldeb ei fam yn fwy ymdrechus, y llinellau yn wyneb ei dad yn amlach ac yn ddyfnach a'r rhesi o wyndra yn ei wallt yn ddisgleiriach. Ai i'r cyfarfod yn y Neuadd bob nos Sadwrn i roi adroddiad o'r areithiau, ond fel y llithrai'r wythnosau ymlaen, diawen, fe wyddai, oedd yr hyn a ysgrifennai am y streic. Ond diawen, ymgysurai, oedd yr areithiau bellach, a'r un lleisiau yn llefaru'r un brawddegau—"sefyll fel y graig,' gyrru'r maen i'r wal," "dwyn barn i fuddugoliaeth,"—o hyd o hyd. A ddeuai byth derfyn ar yr helynt? Yna, un bore Sul yn niwedd Mai, ar ei ffordd adref o'r capel, clywai yn y pellter glychau eglwysi Llan Iolyn a Thre Gelli yn canu mewn llawenydd sydyn, ac ymhen ennyd ymunodd clychau eglwys ac ysgolion Llechfaen yn y gorfoledd."Y streic drosodd," gwaeddodd Gwyn, ac am funud, wrth weld pobl yn rhuthro'n gyffrous i ddrysau'u tai, credodd Dan fod hynny'n wir. Yna clywodd rywun yn dweud, "Dim ond terfyn yr hen ryfal 'na yn Sowth Affrica. Yr hen Bôrs druain wedi gorfod rhoi i mewn i Gijinar o'r diwadd."

Aeth Llew i ffwrdd i'r môr yn sydyn un bore yn niwedd Gorffennaf, a thrannoeth cymerwyd Gwyn yn wael a galwodd y Doctor Roberts i'w weld bob dydd am wythnos gyfan. Cafodd godi ar brynhawn Sul, a dathlodd Martha Ifans yr amgylchiad drwy wahodd Gruff ac Ann o'r drws nesaf i gael te gydag ef.

"Ar un amod," meddai Kate."Fod Dan yn dŵad i de ataf inna'."

"O, o'r gora'."

Aethai Dan am dro i fyny'r mynydd y prynhawn hwnnw, a phan ddychwelodd yr oedd Gruff ac Ann a Gwyn wrth y bwrdd.

"O, te-parti, 'Mam?" meddai.

"Ia, ond nid i ti. Mae Kate isio iti fynd i de ati hi."