Ifans yn dawel. Mi fedar dy fam a finna' wneud yn o lew."
"Medrwn," ochneidiodd y fam, "a dim ond ni'n dau yma bellach.
Medrwn."
"Nid yr arian sy'n bwysig, Dan. Chdi sy'n bwysig, 'machgan i, chdi."
Bron yr un geiriau ag a ddefnyddiodd Kate, meddai Dan wrtho ef ei hun, a'i galon yn curo'n wyllt o'i fewn. Y prynhawn Sul hwnnw y cododd Gwyn ar ôl wythnos yn ei wely. Wel, fe ddiwygiodd ar ôl y sgwrs honno, ond do? Ac fe ddiwygiai y tro hwn eto—ond iddo fynd ymhell oddi wrth y 'Black Boy' a . . . Sylvia.
"Ac efalla' dy fod di'n gwneud yn ddoeth i adael Caer Fenai," chwanegodd ei dad. "Mi fasan ni wedi'th dynnu di oddi 'no ers tro a'th yrru di'n ôl i'r Coleg petai'r hen streic 'ma drosodd."
"Basan, wir," meddai Martha Ifans, gan syllu'n ffwndrus ar ei dwylo anesmwyth. Meddwl am ddylanwad yr Ap ar eu mab yr oedd y ddau ni wyddent ddim am Sylvia a pharlwr y Black Boy.'
"Unwaith yr a'i i ffwrdd odd' 'no," ebe Dan ymhen ennyd, "mi fydda' i'n . . . fi fy hun. Ac mi fedra' i yrru chweugian bob wythnos . . ."
"O, mae'r hen Farged Williams yn cychwyn adra', meddai'i fam yn floesg gan droi tua'r drws i'r gegin fach. "Rhaid imi ddiolch iddi." Ond gwyddai Dan mai dianc rhag torri i feichio wylo yr oedd hi.
Bore trannoeth pan aeth i mewn i'r trên i ddychwelyd i Gaer Fenai, agorodd y ffenestr bellaf a gwyrodd allan trosti i syllu tua'r fynwent. Ni sylwasai arni ers tro byd, ond gwelai'n awr ei bod hi wedi ymledu ac wedi dringo'r llethr uwch yr eglwys yn ddiweddar. Cofiodd fod llawer wedi marw yn Llechfaen yn ystod y flwyddyn a dynnai tua'i therfyn—hen chwarelwyr o dorcalon yn y segurdod hir, rhieni a aberthodd ormod er mwyn rhoi bwyd a dillad a thân i'w plant, plant eiddil fel Gwyn a'r newynu araf wedi diffodd eu nerth. Cododd ei olwg tua chraig y chwarel yn y pellter uwchlaw iddi. Oedd, yr oedd y wên anchwiliadwy ar wyneb miswrn yr hen ŵr o hyd, y wên a naddwyd, heb yn wybod iddynt, gan wŷr fel ei dad a Robert Williams a "J.H." Darllenasai yn rhywle am deithiwr, wrth fynd trwy anialwch yr Aifft, yn dianc mewn ofn rhag edrychiad tragwyddol-ddoeth y Sphinx. Ciliodd yntau i mewn i'r cerbyd a chau'r ffenestr.