"Fo oeddach chi isio'i weld?"
"Ia."
Nodiodd y dyn, ond ni ddywedodd ddim. Yna cododd a chymryd Gwyn ar ei gefn eto.
Rhaid i chi ddŵad adra' hefo mi i nôl y merlyn," meddai. Wedi dilyn y ffordd fawr am ryw hanner milltir, troesant i'r chwith am dipyn, a gorffwysodd y bugail eto cyn dringo'r llethr tua thyddyn bychan, gwyn yng nghesail y mynydd. Edrychai'n unig a digymorth iawn yno dan guwch craig enfawr, ac ymddangosai cloddiau ei gaeau bychain fel caerau a godwyd rywdro i amddiffyn y mymryn tir rhag lluoedd o gewri arfog. Safai gwraig ifanc wrth ddrws y tyddyn, a chwifiodd y bugail ei law arni. Chwifiodd hithau'n ôl, ond yn bur ddigyffro, a phan ddaethant at y tŷ sylwodd Llew ar ei hwyneb llym, pryderus, ac ar y caledwch yn ei llygaid. Yr oedd hi, meddyliodd, fel y tyddyn—yn dlawd ac unig ond herfeiddiol dan wg y graig.
"Dwad ar draws y ddau yma ar y mynydd," meddai'i gŵr wrthi. "Ar y ffordd i'r gwaith copar, a'r niwl fel gwlân o'u cwmpas nhw."
"'Neno'r dyn, be' oeddan' nhw isio yn fan'no ar bnawn Sadwrn fel hyn?"
"O, mae hynny'n gyfrinach fawr, Siân. Trio prynu'r lle, efalla'! Fe fydd siawns i mi gael job yno 'rŵan!"
Cariodd Gwyn i mewn i'r tŷ a'i roi i eistedd ar hen setl dderw ar y chwith i'r aelwyd. Eisteddodd Llew wrth ochr ei frawd, a daeth tri o blant llwyd a charpiog o rywle i syllu'n geg-agored arnynt.
Gad imi weld dy droed di," meddai'r bugail wrth Gwyn, gan dynnu'i esgid a'i hosan. "Hm, dim o bwys, ond 'i bod hi'n boenus, yntê, 'ngwas i?" Aeth i ddrôr y dresal a thynnu cadach gwyn oddi yno. "Mi lapia' i hwn amdani hi, rhag ofn." Yna troes at ei wraig. "Rho damaid o fwyd iddyn' nhw, Siân. Maen' nhw bron â llwgu."
Ni symudodd hi, dim ond taflu golwg hyll arno.
"Tamaid o fwyd, Siân," meddai'i gŵr eilwaith. "Maen' nhw bron â llwgu."
"Nid nhw ydi'r unig rai," meddai hithau'n dawel, a'i llygaid yn galed.
Twt, tyd yn dy flaen."