Tudalen:Chwalfa.djvu/224

Gwirwyd y dudalen hon

arwyr y streic o'r blaen; Richard Owen, Fron; yr hen Ifan Pritchard. Ni ddywedai un ohonynt ddim byd newydd iawn, meddyliodd, ond yr oeddynt oll yn ddynion â gwaelod ynddynt, a sicrwydd a chadernid nid yn unig yn eu geiriau ond yn eu holl gymeriad. Yr oedd hi'n fraint cael brwydro wrth eu hochr hwy: lle safent hwy, arnhydedd oedd cael sefyll. A lle safai'r dynion wynepllym o'i flaen.

Nid oedd ond rhyw ddau gant yn y Neuadd heno: âi'r gynulleidfa'n llai o Sadwrn i Sadwrn oni cheid rhyw siaradwr neu newydd arbennig yn y cyfarfod. Arhosai rhai ymaith mewn digalondid, rhai mewn ansicrwydd euog, ond y prif reswm oedd bod ugeiniau wedi gadael yr ardal mewn anobaith yn ystod Medi a Hydref, wedi'u siomi gan y cyfarfod di-ffrwyth a gynhaliwyd yn niwedd Awst. Golygfa a welid yn aml yn yr hydref a dechrau'r gaeaf oedd cert â llwyth o ddodrefn arni ar ei ffordd tua'r orsaf, y tad yn ceisio cerdded yn dalog wrth ei hochr, y plant yn gyffrous wrth gychwyn ar antur newydd, y fam yn gwneud ei gorau i gadw'r dagrau'n ôl wrth wenu'i ffarwel i hon ac arall ar y stryd. Ond nid edrychai na'r gŵr na'r wraig yn wyneb Jones, Liverpool Stores neu Robert Roberts y Teiliwr neu Siôn Crydd, os digwyddai un ohonynt fod yn nrws ei siop—a gallent, pe mynnent, sefyllian yno drwy'r dydd bron.

Dim ond dau gant, meddai Edward Ifans wrtho'i hun fel y codai i agor y cyfarfod. Ond hwy oedd asgwrn-cefn y fyddin, y dewraf a'r ffyddlonaf o'r gwŷr—a'r tawelaf, meddyliodd. Cofiai amser pan lenwid y Neuadd â lleisiau herfeiddiol, croch, ond mewn tawelwch penderfynol y cyrchai'r dynion hyn drwy'r eira a'r oerwynt tua'r cyfarfod, amryw ohonynt o fythynnod diarffordd y llechweddau. Aethai'r rhai uchaf eu cloch yn ôl i'r chwarel. Anaml yn awr y clywid rhegfeydd nac y gwelid chwifio dyrnau chwyrn yn y Neuadd. Dynion tawel, dwys a'u balchder diymod yn peri iddynt wisgo'u dillad Sul bob nos Sadwrn—oedd y rhan fwyaf o'r gynulleidfa erbyn hyn; gwŷr mewn oed bron i gyd, gan i'r rhai ifainc anturio i'r Deau neu i Loegr, ac amryw i'r America, i chwilio am waith. Llanwyd Edward Ifans â pharch tuag atynt fel yr agorai'i enau i'w hannerch.

"Gyd-weithwyr," meddai, a'i lais yn gryf ac eofn. "Funud yn ôl, pan eisteddwn i wrth y bwrdd 'ma, fe ddaeth y felan trosta' i. Meddyliais am y tai gweigion sy yn Nhan-y-bryn