Tudalen:Chwalfa.djvu/232

Gwirwyd y dudalen hon

clychau eglwysi'r cylch, a bu helynt fawr drwy'r ardal. Aeth yn orymdaith, yna'n floeddio gwyllt, a chyn hir yn dorri ffenestri. Cyn diwedd yr wythnos honno yr oedd cant a thrigain o blismyn a chant a deugain o filwyr—y deugain yn wŷr meirch—yn Llechfaen, ac ni wnaeth hynny ond cynhyrfu'r bobl yn fwy: aethai hyd yn oed y plant i dorri ffenestri yn nirgelwch y nos.

Ond heno, er bod llawer o ddynion o'r De a lleoedd eraill gartref o hyd, ufuddhâi pawb i apêl eu harweinwyr ac aros yn eu tai. Dim ond sŵn traed dau blisman a dorrai ar heddwch Tan-y-bryn.

Ni fedrai Edward Ifans gysgu. Gwrandawai ar ddistawrwydd y tŷ, distawrwydd a soniai am wacter mawr yr hen gartref, a gwelai, un ar ôl y llall, wynebau ei blant yng ngwyll yr ystafell. Idris—ni hoffai sŵn ei lythyrau pan soniai am y peswch a ddaliai i flino Kate. Megan—ai byw i ddwyn plant Ifor i'r byd fyddai'i thynged hi, rhyw fyw i rygnu bod? Llew—ym mh'le yr oedd ef heno, tybed? Pa bryd, pa bryd y deuai adref i Fartha gael ei weld? Gwyn—wel, fe fyddai wyneb Gwyn yn dragwyddol hoyw a'i wên bur, hen-ffasiwn yn fythol ifanc. Dan—beth a ddôi ohono ef yn Llundain, tybed? Câi gyflog da i ddechrau—deg swllt ar hugain yr wythnos-ac os gweithiai'n ddiwyd a manteisio ar gyfleusterau'r ddinas i'w ddiwyllio'i hun, datblygai'n ysgrifennwr y byddai sôn amdano. Gwnâi, os . . . cadwai o gwmni drwg. Ond yr oedd Dan, chwarae teg i'r hogyn, wedi ymgryfhau'n ddiweddar, ac efallai i farw Gwyn ei ddychrynu a'i ddiwygio unwaith ac am byth. Gwyn

Llefarodd tafod dwys cloch yr eglwys. Ceisiai pwy bynnag a dynnai wrth y rhaff groesawu'r flwyddyn newydd drwy blycio nodau llon a chyflym o'r tŵr. Godwrf diawen fu'r canlyniad a bu raid i'r plyciwr hyderus ymatal. A buddiol efallai, meddyliodd Edward Ifans yn llwm, oedd rhoi i haearn lleddf yr hen gloch ei briod lais.