Tudalen:Chwalfa.djvu/32

Gwirwyd y dudalen hon

i mewn i dŷ â'r gair 'Gwynfa' uwch ei ddrws. Aeth yn syth i'r gegin.

Hylô, 'Mam! Lle mae pawb?"

"Lle mae pawb, wir! Yn chwilio amdanoch chi, debyg iawn. 'Ydi Gwyn hefo ti?"

"Ydi, tu allan."

"Lle buoch chi, y cnafon bach? 'Rydan ni ar biga'r drain ers oria' yma. Lle buost ti, hogyn? 'Ydi Gwyn yn iawn?

'Gawsoch chi fwyd?

Lle mae o gin' ti?"

Gwraig fawr ganol-oed oedd Martha Ifans, â llais uchel, treiddgar. Fflachiai dicter yn ei llygaid yn awr, ac edrychai fel petai am hanner-ladd ei mab. Ond gwyddai Llew nad oedd ei fam yn un i'w hofni: ei phryder a'i gwnâi mor gas.

"Mae popeth yn iawn, 'Mam. Colli'n ffordd yn y niwl ddaru ni, a . . .

"Niwl?

Niwl? Pa niwl?"

"I fyny yn Nant-y-Foel."

"Nant-y-Foel? Yr argian fawr, be' oeddach chi isio mewn lle felly?"

"Chwilio am job yn y gwaith copar, a mi fu'n rhaid i Gwyn gael dwad hefo fi. Mi wnes i fy ngora' glas i'w berswadio fo i beidio, ond . . ."

" 'Ddaru o gerddad bob cam i fan'no, a'r hen fflachod o 'sgidia' 'na am 'i draed o?"

"Do, ond . . ."

"Be' oedd ar dy ben di, hogyn, yn gadal iddo fo drampio mor bell? Lle'r oedd dy synnwyr di?"

Daeth Gwyn i mewn, yn bur gloff, a'r bugail tu ôl iddo.

"Fe ddaeth y dyn 'ma â ni'n ôl ar gefn 'i ferlyn," eglurodd Llew.

"O, sut ydach chi?" meddai'r fam. "Dowch i ista' i'r fan yma wrth y bwrdd i chi gael 'panad hefo ni."

"Na, dim diolch yn fawr. 'Rydw' i am fynd i'r cwarfod."

"Mi gewch fynd i'r cwarfod ar ôl llyncu tamaid. Mae gynnoch chi ddigon o amsar. 'Fydda' i ddim dau funud Tyd ditha' at y bwrdd y gwalch bach," chwanegodd wrth Gwyn. 'A thyn y 'sgidia' na, imi gael gweld dy droed di. Gwaith copar, wir! 'Roeddat titha'n meddwl y caut ti waith yno, mae'n debyg !'

"Mi ddeudodd y dyn," dechreuodd Gwyn, ond gwthiodd ei fam ef i gadair wrth ben y bwrdd. "Tyn y 'sgidia' 'na,"