Tudalen:Chwalfa.djvu/38

Gwirwyd y dudalen hon

Ymledodd chwerthin drwy'r lle, a nodiodd amryw yn edmygus ar ei gilydd, gan gofio mor ffraeth y gallai Robert Williams fod ar adegau.

"Yr ydw' i wedi bod yn yr anialwch deirgwaith o'r blaen, ond yr oedd pawb y tri thro hynny yn cerddad hefo'i gilydd, yn unol a dewr a phenderfynol. Ond y tro yma mae 'na lo aur wedi'i godi, ac mae rhyw dri chant o'n cyfeillion ni..." "Cyfeillion?" llefodd amryw. "Gelynion! Bradwyr! Gwehilion! Sgym!"

"Mi wela' nad ydach chi ddim yn hoff ohonyn' nhw," sylwodd y Cadeirydd. "Wel, wir, mae hi'n o anodd caru'n gelynion weithia'. Yr ydw' i bron â chyrraedd oedran yr addewid, ond mi liciwn i fod wedi mynd o'r hen fyd 'ma cyn dydd Mawrth dwytha'. Dyna'r dwrnod mwya' trist yn fy hanas i—ac yn hanas Llechfaen. Ac un o'r dyddia' trista' yn hanas Cymru, am wn i. 'Wnes i ddim credu bod y peth yn bosib', nes imi 'i weld o â'm llygaid fy hunan. Mi fùm i bron â thorri fy nghalon."

Rhedodd murmur o gydymdeimlad drwy'r lle. Cofiai pawb mor ddoeth a phenderfynol y buasai Robert Williams fel Llywydd eu Pwyllgor : cofient hefyd iddo golli'i waith am fisoedd ar ôl y streic olaf ac i'r holl weithwyr fygwth rhoi'u harfau i lawr oni châi ddychwelyd i'w hen le.

"Pan glywis i, rai misoedd yn ôl, fod y Swyddfa'n gwahodd enwa' dynion i ailddechra' yn y chwaral," meddai, " 'wnes i ddim ond chwerthin. Yr oedd hynny wedi digwydd o'r blaen, a dim ond ambell walch diegwyddor wedi cymryd sylw o'r peth. Wedyn mi glywis si fod 'na gannoedd o ddynion felly yn Llechfaen. Dal i chwerthin ynof fy hun yr oeddwn i. 'Roedd y si yn debyg iawn i'r stori honno am hogyn yn rhedag i'r tŷ at 'i fam. Mam!' gwaeddodd, Mae 'na gannoedd o gathod yn y cefn.' 'Cannoedd?' medda' hitha'. Paid â stwnsian, hogyn.' 'Wel,' medda'r hogyn, yn edrach allan drwy'r ffenast', 'mae 'na gath rhywun heblaw ein cath ni." " Chwarddodd pawb, ond safai Robert Williams ar y llwyfan heb wên ar ei wyneb, fel petai'n synnu iddo ddweud rhywbeth digrif.

Ond dydd Mawrth dwytha'," aeth ymlaen, " pan agorwyd y chwaral i'r rhai oedd yn barod i fradychu'u cydweithwyr, yr oedd dagra' yn fy llygaid i wrth imi wrando, ben bora, ar sŵn 'sgidia' hoelion-mawr ar y ffordd. Breuddwyd ydi'r