Tudalen:Chwalfa.djvu/40

Gwirwyd y dudalen hon

cadarn fel y graig. Fel y soniodd ein Haelod Seneddol yn y tŷ Cyffredin rai misoedd yn ôl, mae cryfder a sobrwydd yr hen fynyddoedd wedi mynd yn rhan o'n natur ni. Mae yma ddwsin o gapeli yn dystion i'n diddordeb ni mewn crefydd ; mae'n plant ni'n cael cyfla i ddringo drwy'r Ysgol Sir i'r Coleg. Dwy fil o bunna', o'u henillion prin, a roes chwarelwyr Llechfaen at godi'r Coleg ar lan Menai. Y mae gennym ni orffennol i fod yn falch ohono—stori ymdrech ac aberth ac onestrwydd a charedigrwydd. Ddynion! Mae'r dyfodol yn eich dwylo chi. Fe gododd gwarth ei ben yn ein hardal, anfri nad anghofir mono am flynyddoedd meithion, ond os sefwch chi i gyd yn gadarn—er eich mwyn eich hunain, er mwyn eich plant, er mwyn y cannoedd sydd wedi mynd ym— aith i weithio dros dro—yna fe gilia'r cwmwl hwn a chlywir sŵn traed sionc a hapus yn fiwsig ar hen lôn y chwaral unwaith eto."

Cafodd yr araith gymeradwyaeth frwd, ac eisteddodd Robert Williams ennyd nes i'r curo dwylo ddistewi. Yna cododd drachefn i gyflwyno "J.H.", Ysgrifennydd y Pwyllgor.

"Does dim angen imi ofyn i chi roi derbyniad gwresog iddo," meddai.

"Na, nid oedd angen yr oedd sŵn y curo dwylo a stamp y traed yn ysgwyd y lle. Ni chawsai hyd yn oed William Jones, eu Haelod Seneddol huawdl a hoffus, well derbyniad. Hwn—"J.H. " i bawb—oedd eu harwr, eu hareithiwr tanbaid, eu hymresymwr medrus, eu harweinydd penderfynol. Aethai sôn am hwn drwy'r holl wlad, yn y streic o'r blaen ac yn yr helynt hwn. Safai yn awr wrth ochr y bwrdd ar y llwyfan, a dalennau o bapur yn ei law, a chudyn o'i wallt brith yn llithro i lawr tros ei dalcen. Taflodd y cudyn yn ôl â'i law, fel y gwnâi bob amser cyn dechrau llefaru, a chododd ei lygaid oddi ar y dalennau i wenu'n dawel arnynt. Ffrydiai llif o heulwen olaf yr hwyr o'r ffenestr ar draws y llwyfan, ac edrychai'i wyneb tenau, llwyd, uwchlaw iddo yn welw iawn, ond ni wnâi hynny ond rhoi disgleirdeb mwy i'w lygaid byw, eiddgar.

"Mr. Cadeirydd a Chydweithwyr oll." Yr oedd ei lais er yn dawel yn cyrraedd pob cwr o'r Neuadd. "Mi glywais i rywun yn galw dydd Mawrth dwytha' yn 'Ddydd Barn Llechfaen.' Fel y cadeirydd, rhyw chwerthin ynof fy hun yr oeddwn inna', ond fel y nesâi'r dydd, 'doeddwn i ddim mor