Tudalen:Chwalfa.djvu/49

Gwirwyd y dudalen hon

ennyd fe fydd y Cadeirydd yn cyflwyno penderfyniad i'r cyfarfod hwn. Os oes rhai ohonoch chi'n cloffi rhwng dau feddwl, da chi, peidiwch â phleidleisio trosto fo. Yr ydan ni wedi cynnal llawer cyfarfod yma yn ystod y misoedd dwytha' 'ma ac wedi gweld rhai sy'n Fradwyr erbyn hyn yn codi'u dwylo mor frwdfrydig â neb. Na fydded i un ohonoch chi fod yn rhagrithiwr yn ogystal â bradwr . . . A 'rwan, Mr. Cadeirydd, darllenwch y telegrams iddyn' nhw yn gyntaf, cyn mynd ymlaen at y penderfyniad. Clywch be' ydi barn yr hogia' sy ar wasgar.'

Eisteddodd "J.H. "i lawr heb wneud ymgais at berorasiwn, ond, er hynny, prin y gallai'r gymeradwyaeth a roed iddo fod yn fwy gwresog. Medrai ef areithio'n danbaid a chynhyrfu unrhyw dorf; ond heno, a'i lygaid ar wŷr y Wasg, blodlonodd ar draethu'r ffeithiau, heb ymfflanychu. Tynnodd law flinedig dros ei dalcen, ac edrychai'n welw a phryderus yno wrth y bwrdd ar y llwyfan. Yr oedd ei wyneb yn awr, wedi iddo eistedd, yn y llafn o heulwen, a thynnai'r golau y llinellau ynddo i'r amlwg. Petai ef yn gerflunydd, meddai Llew wrtho'i hun, ac yn chwilio am rywbeth i gyfleu cyfrifoldeb eiddgar, dwys, yna naddai mewn maen neu farmor wyneb llwyd, tenau, diffuant "J.H."

Daliai'r Cadeirydd nifer o bellebrau yn ei law.

"Y mae'r cynta' 'ma," meddai, "o Firkenhead. Dyma neges yr hogia' yno—Gwell marw'n filwr na byw yn fradwr. Safwn mor gadarn â'r graig!"

Derbyniwyd y geiriau â tharan o gymeradwyaeth, a chwifiai llu eu dyrnau'n chwyrn. Wrth ymyl Llew safai amryw ar y seddau i floeddio'u "Hwrê!"—yn ddigon uchel i hyd yn oed yr hen Ishmael Jones glywed y gair a chydio ynddo. Clywid ei lais main, crynedig, ymhell wedi i bawb arall dawelu, a rhoes rhywun bwniad iddo i'w hysbysu fod y gweiddi wedi peidio am ennyd. Croesawyd pob pellebr o Lerpwl, o Heysham, o Fanceinion, o Faesteg, o Bontycymer, o Donypandy, o Faerdy, o Aberdâr, o Ferthyr, o Dredegar—yn yr un modd, a phan ddaeth gosteg—

"Mi fasa'n well gen' i lwgu na bradychu'r hogia' yna," meddai Robert Williams yn dawel, â chrygni yn ei lais. Yna galwodd ar Edward Ifans, tad Llew, i gynnig y penderfyniad. Cododd yntau a cherdded ymlaen at y grisiau ar y