gyrraedd trothwy oedran yr addewid, 'welis i 'rioed o'r blaen ddynion yn magu cynffonna' mor llaes â'r rhain. 'Ron i'n gwbod bod gan y rhan fwya' ohonyn' nhw bâr o goesa' reit dda—i redag adra' cyn caniad, a thafod pur gyflym—i gario straeon i'r Stiward, ond fel yr edrychwn i arnyn' nhw y bora hwnnw, 'u cynffonna' nhw welwn i, yn llusgo fel rhaffa' mawr yr Inclên Isa' tu ôl iddyn' nhw."
Chwarddodd llawer, ond yr oedd Robert Williams yn dechrau anesmwytho. Gwyddai, o hir brofiad yn y Seiat yn Siloh, y gallai William Parri fynd ymlaen fel hyn am hanner awr arall. Yn wir, adroddid stori hyd yr ardal i William Parri freuddwydio un noson iddo siarad am awr gyfan yn y Seiat, a phan ddeffroes, ar ei draed yn y Seiat yr oedd! Taflodd Robert Williams olwg awgrymog tuag ato'n awr, a gwelodd yntau hi.
"Mae Robat 'cw am imi fod yn fyr," meddai. "Ac yn fyr y bydda' i. Yr on i'n darllan yn y papur ddoe ddwytha' fod rhyw Farnwr enwog tua Lloegar 'na, wedi clywad am yr helynt 'ma yn Llechfaen, yn dal bod gan bob gweithiwr hawl a rhyddid i werthu'i lafur lle ac fel y mynno. Dyna'r Gyfraith ar y pwnc, medda' fo. Mae'n rhaid fod y dyn wedi pasio'n uchal, i fod yn Farnwr, ond yng nghlas y Bebis y dyla' fo fod. Edrach ar weithiwr fel unigolyn ac nid fel aelod o gymdeithas y mae o. Fe dorrodd helynt yn y chwaral 'ma. Fe ddaeth yr holl weithwyr allan i ymladd dros 'u hiawndera', i sefyll hefo'i gilydd, ac mewn cwarfod ar ôl cwarfod fe gytunodd pawb i frwydro i'r pen. Yr ydw' i'n deud wrth y Barnwr 'na fod y Bradwyr wedi torri amod. Mae'r Gyfraith yn edrach ar dorri amod fel trosedd, ond ydi?" Troes yr hen William Parri at y plisman nesaf ato. Be' ydach chi'n wneud yn Llechfaen 'ma?" gofynnodd. Ysgwydodd y dyn ei ben, gan na ddeallai Gymraeg. "'Wyddoch chi ddim? Wel, mi ddeuda' i wrthach chi. Amddiffyn troseddwyr, rhai sy wedi torri amod, wedi bradychu'u cydweithwyr. A 'wyddoch chi be' ddylech chi wneud?" Ysgydwodd yr heddgeidwad ei ben eto. "Na wyddoch? Wel, mi ddeuda' i wrthach chi. Fel swyddog y Gyfraith, eich lle chi ydi nid amddiffyn ond cosbi troseddwyr, yntê? Wel, cosbwch y tacla', rhowch nhw yn y jêl, crogwch nhw, bob un wan jac ohonyn' nhw."