Tudalen:Chwalfa.djvu/60

Gwirwyd y dudalen hon

edrychasai ef bob amser ar Mr. Price-Humphreys â pharchedig ofn, fel petai perchen "Annedd Uchel" yn rhyw gawr o fyd arall a ddeuai weithiau ar hynt urddasol i blith dynionach Tan-y-bryn. Ond ciliasai holl urddas y dyn yn awr. Ceisiai ymddangos yn ffroenuchel, ond crynai'i wefusau tenau gan ofn a disgleiriai dafnau o chwys ar ei dalcen. Tra-arglwyddiaethu fu ei dynged ef: yr oedd hwn yn brofiad newydd iddo. "Wedi chwe mis o lafur calad i agor ffordd at y graig, dyma'r Stiward Gosod, Mr. Price-Humphreys "—llefarai Dic yr enw fel un yn poeri gwenwyn o'i enau—yn dwad heibio ac yn rhoi'r lle i rai o'i gynffonwyr, yntê? . . . 'Ydach chi'n cofio? . . . Ac yn ein gyrru ni i ben pella'r Twll i slafio ar glogwyn o wenithfaen. 'Roedd y peth yn ddigri' o greulon, ond oedd ?"

Chwarddodd Dic yn dawel a gollyngodd ei afael ar y glog. 'Rydw' i'n dallt bod eich cathod chi'n mynd yn rhy dew, Mr. Price-Humphreys," meddai. "'Dydi fy mhlant i ddim." A throes ymaith yn sydyn i ddringo'r allt.

Gwnaeth y Stiward ymdrech deg i adennill ei urddas drwy ymsythu a cheisio gwenu.

"Hm . . . y . . . anffodus. . . y . . . anffodus," meddai, fel un yn ymbalfalu'n ffwndrus am eiriau. "Wel . . . y . . . nos dawch, Edward Ifans."

"Y . . . nos dawch, Mr. Price-Humphreys. Mae'n mae'n ddrwg gin' i fod hyn wedi digwydd." Ond yr oedd gŵr y glog yn brasgamu i lawr y stryd a'i ben yn yr awyr i geisio ymddangos yn ddihitio.

Brysiodd y lleill ar ôl Dic a cherddodd y pedwar heb ddweud gair am dipyn.

"Wel, dyna hi wedi canu arnat ti yn y chwaral 'na, Dic Bugail, 'y ngwas gwyn i," sylwodd Idris o'r diwedd.

"Mi wn i hynny, Id. 'Rydw' i'n dwad i'r Sowth hefo chdi ddydd Mawrth. Mi ga' i fenthyg yr arian gan hen ewyrth i'r wraig acw.'

Safai'r merlyn yn dawel a breuddwydiol o flaen "Gwynfa," wedi'i glymu wrth y mur. Yr oedd ar ben ei ddigon ar ôl i blant y gymdogaeth gludo pob math o ddanteithion iddo. Hen blant bach iawn, meddai wrtho'i hun, gan ail-fyw mewn dychymyg y gloddesta a fu. Cofiai yn arbennig am un hogyn, a alwai'r plant eraill yn "Gwyn," yn rhoi iddo ddarn mawr o fara-brith ac yna'n rhuthro'n ôl i'r tŷ cyn iddo gael cyfle i