nodio'i ben mewn diolch. Pam yr oedd y bachgen wedi'i wisgo mewn coban wen, tybed? A pham yr oedd mor llechwraidd ac ar gymaint brys? Ni wyddai'r merlyn; ond yn wir, yr oedd y bara-brith yn un da iawn, y gorau a gafodd erioed.
'Dydach chi ddim yn meddwl y cewch chi fynd adra' heb 'banad, 'ydach chi, Dic?" gofynnodd Edward Ifans wrth weld y bugail yn cydio yn awenau'r merlyn. "Dowch i mewn. 'Fyddwch chi ddim dau funud.".
Bu raid i Dic ufuddhau. Yr oedd y swper-bara-saim a l-etys ac yna frechdanau o fara-brith-ar y bwrdd, a Martha Ifans, cyn gynted ag y clywodd sŵn eu traed, wedi tywallt dŵr yn y tebot.
"Dyma iti Megan fy chwaer, Dic," meddai Idris. "Gwraig Ifor, wsti."
Ysgydwodd Dic law â'r ferch a gynorthwyai'i mam wrth y bwrdd. Geneth lon, iachus, lawn chwerthin, a'i gwallt a'i llygaid duon yn ei atgoffa am ei wraig ei hun.
Chi bia'r poni, yntê? "chwarddodd hi. "Prin y medar o'ch cario chi adra' heno ar ôl yr holl fwyd mae plant y stryd 'ma wedi'i roi iddo fo."
"A dyma ti'r Sgolar," meddai Idris. "Fy mrawd Dan, sy yn y Coleg."
Hoffodd Dic y llanc glân deunawmlwydd ar unwaith. Yr oedd Dan yn debyg iawn i'w dad, yn dal a thenau a'i lais yn dawel a dwys. Tyfasai'n rhy gyflym, meddyliodd y bugail wrth ysgwyd llaw ag ef, ac ni chawsai ddigon o fwyd pan oedd ei wir angen arno. Er hynny, yr oedd nerth annisgwyl, eiddgar, yng ngwasgiad ei law.
"A 'rwan rhaid imi 'i throi hi i'r drws nesa'," ebe Idris, "ne' fe fydd Kate yn hannar fy lladd i. Gwaedda cyn iti fynd, Dic."
"O'r gora', Idris."
Parablai Dic Bugail bymtheg y dwsin yn ystod swper, a gwyliodd Llew ef yn syn, gan gofio am y gŵr tawedog a'i dygasai ef a Gwyn adref rai oriau ynghynt. Nodiai a gwenai Edward Ifans yn ddeallgar : gwyddai ef fod y ffrae â'r Stiward Gosod a'r penderfyniad sydyn i fynd i'r Sowth yn gynnwrf ystyfnig o hyd ym meddwl Dic, ac y siaradai fel melin i geisio'u hanghofio.