amdano fo? Twt, hen lol wirion! 'Dydi pawb ddim yn byw rwsut-rwsut, ar draws 'i gilydd, hyd yn oed yn y Sowth 'na. Mae 'na dda a drwg ym mhob man, ond oes?"
Gwenodd Edward Ifans. "Mi wn i am rywun fasa'n hollol yr un fath petawn i ar y trên 'na," meddai'n dawel.
"'Faswn i, wir!" Taflodd ei phen yn chwareus, gan edrych yn ffroenuchel arno. Yna saethodd pryder i'w llygaid. "Be' sy' Edward?" gofynnodd. "Dan 'ma? Mae Kate a finna' wedi trio'n gora' glas i'w berswadio fo, ond mae o mor benderfynol â . . . â'i dad, mae arna' i ofn."
"Na, nid Dan . . . Megan."
Adroddodd yr hanes wrthi.
"Idris," meddai hi, pan orffennodd. "A 'rwan, Megan. A Dan." Crynai'i gwefusau, a chrafangai'i barclod â bysedd aflonydd. Edrychodd ei gŵr yn syn arni, ac yna nodiodd yn araf a gwasgodd ei braich yn dosturiol. Hwn oedd y tro cyntaf i Fartha blygu o dan y baich. Drwy'r misoedd llwm a aethai heibio, safasai hi'n eofn a llon wrth ei ochr, heb air o rwgnach, heb gysgod ar ei hwyneb. Pan etholwyd ef, ar ddechrau'r streic, yn Is-Lywydd pwyllgor y dynion, yr oedd hi'n falch ohono, er gwybod ohoni mai gwgu a wnâi awdurdodau'r chwarel ar y pwyllgor hwnnw. Ond heddiw "Idris . . . a 'rŵan Megan . . . a Dan."
Megan yn arbennig. Yr oedd y fam a'r ferch yn gyfeillion mawr, a thynasai helbul yr eneth hwy'n nes at ei gilydd. Pan glywodd Martha Ifans gyntaf oll fod Megan yn canlyn Ifor Davies, ceisiodd dro ar ôl tro roi cynghorion i'w merch, gan obeithio y dewisai gariad arall sobrach a chywirach. Ond ni wrandawai Megan: nid oedd neb tebyg i Ifor, â'i lais cerddorol a'i chwerthin llon, ysgubol. Cymryd arno'i fod yn ddall ac yn fyddar a wnâi Edward Ifans, gan ymddwyn fel un na freuddwydiai fod ei ferch yn caru. Yr oedd y dallineb a'r byddarwch hwn yn draddodiad sanctaidd yn Llechfaen ac mewn ugeiniau o ardaloedd tebyg—y rhieni'n hurt o anwybodol, yn ddigrif o ddi-weld, a'r mab neu'r ferch mor rhyfeddol o ddiniwed ag un o'r angylion hynny a wenai mewn llesmair pur o'r lluniau ar wal festri'r capel. Chwaraeid y ffars weithiau am flwyddyn neu ddwy, nes bod Jane yn mwynhau sgwrs am Wil hefo bron bawb yn yr ardal ond ei rhieni, a Wil, er ei fod yn dechrau meddwl am briodi, yn "picio i lawr i weld yr hogia' " bob gyda'r nos.