Yna aethant olli'r tŷ. Rhoddodd Gerard Steimer y blwch o'i law ar y bwrdd; ac wedi cymeryd agoriad o'i locell ac agor y blwch, tynodd allan ewyllys ddiweddaf ei frawd Bernard Steimer.
Edrychai pawb yn drist ar yr hen wr pan oedd yn ei hagor. Yna dywedodd wrthynt:—
"Cefais yr hyfrydwch galarus, fy anwyl blant, o weled eich ewythr yn marw mewn tangnefedd, ac o osod ei weddillion marwol i orphwys yn y bedd. Yn yr ewyllys hon, gadawodd ei holl eiddo i'r un, yn ol fy marn i, a wnaeth y defnydd goreu o'r dyrnaid ŷd a roddais iddo cyn myned oddicartref, Yn awr, gadewch i mi glywed pa ddefnydd a wnaethoch o hono.
"Yr ydwyf fi,"meddai Adolphus, "wedi cadw fy un i yn ddyogel. Rhoddais ef yn ofalus mewn blwch pren mewn lle sych; y mae mor werthfawr heddyw â'r dydd y rhoisoch chwi ef i mi."
Atebodd ei dad ef â llais sarug, "Fy mab, ti a gedwaist y grawn heb ei ddefnyddio, a pha beth a enillaist? Dim. Felly y mae gyda chyfoeth. Trysorwch ef, ac ni ddyry nac elw na phleser. Tithau, Henry, pa beth a wnaethost ti â'r dyrnaid grawn?"
"Wedi i mi ei falu yn flawd, mi a'i gwneuthum yn deisen felus, yr hon a fwytëais."