"Y bachgen ynfyd,"meddai y tad, ar ol munud o fwynhad dyna ddarfod am dano. Felly yn gymhwys y mae gydag arian. Treuliwch hwynt ar bleserau, nid yw y rhai hyny ond darfodedig."
Trôdd yr hen Gerard ar hyn at ei fab ieuengaf, a chan ei gymeryd yn nês ato gofynai, "Ond beth a wnaeth Bernard fychan â'r dyrnaid ŷd a roddais iddo?"
Y plentyn dan wenu a gymerodd law ei dad yn ei law ei hun, ac a ddywedodd wrtho, "Deuwch gyda mi, a dangosaf i chwi."
Aethant oll gydag ef, y bachgen yn gyntaf a hwythau yn canlyn, tuag un o feusydd ei dad.
"Dyma yr hyn a ddaeth o'm dyrnaid ŷd i fy nhad,"meddai y bachgen siriol, gan gyfeirio â'i fys at gongl o'r cae, lle y tyfai darn o ŷd, ei welltyn hir a gwanaidd yn toni yn brydferth dan bwysau y dywysen aeddfed.
Ar hyn gwenai yr hen Gerard yn foddhaol, a chan roddi ei law ar ben Bernard, dywedodd wrtho, "Darfu i ti ymddwyn yn ddoeth, fy mab. Tydi a hauaist y grawn yn y ddaear, a chefaist ffrwyth toreithiog; tydi, gan hyny, a enillaist gyfoeth dy ewythr. Bydd mor ddoeth gyda hwn ag y buost gyda'r dyrnaid ŷd. Paid a'i gadw yn ddiddefnydd,