Tudalen:Chwedlau'r Aelwyd.djvu/15

Gwirwyd y dudalen hon

"Mae genyf lawer o resymau, syr," oedd yr ateb.

"Gadewch i mi eu clywed, fel y gallwyf farnu eu teilyngdod," meddai yr Athraw.

"Yn y lle cyntaf, syr, pe byddai i mi ymladd â John, byddwn yn siwr o wneud niwed iddo, a byddai hyny yn ofidus iawn i fy meddwl."

"Da iawn," meddai yr Athraw.

"Yn y lle nesaf, syr, os na lwyddwn i wneud niwed iddo ef, yna byddai ef yn siwr o wneud niwed i mi."

"Y mae hyny yn sicr," meddai yr Athraw.

"A pheth arall, syr, gwell genyf gael fy ngalw yn gachgi, na gwneud yr hyn y tystia fy nghydwybod ei fod o'i le."

"Da iawn eto," meddai yr Athraw.

"Ac yn olaf, syr, byddai ymladd â'n gilydd nid yn unig yn groes i reolau yr ysgol, ond hefyd i orchymyn ein Harglwydd, yr hwn a'n dysgodd i faddeu ac i garu ein gilydd. Ac i'r un pwrpas y mae y testyn a glywais boreu Sabboth diweddaf,— "Tyner ymaith oddiwrthych bob chwerwedd, a llid, a dig, a liefain, a chabledd, gyda phob drygioni. A byddwch gymwynasgar i'ch gilydd, yn dosturiol, yn maddeu i'ch gilydd, megys y maddeuodd Duw er mwyn Cristi chwithau."(Eph.iv. 31, 32.)