Canmolai yr Athraw Joseph am ei atebion synwyrol, a gobeithiai y byddai iddo ymddwyn ar bob achlysur yn unol a'i egwyddorion; ac ychwanegai, "Yn ol fy marn i, yr ydych wedi amlygu mwy o wroldeb trwy wrthod ymladd, nag a fuasech trwy wneud felly, er i chwi fod yn orchfygwr."
Dygwyddodd yn ddamweiniol, ymhen oddeutu wythnos ar ol hyn, i fwthyn yr hen Farged Jenkins fyned ar dân. Llwyddodd yr hen wraig i ffoi o'r tŷ, a digwyddodd fod ei merch oddicartref ar y pryd; ond tra yr oedd y tân yn prysur gau oddeutu y grisiau, cofiwyd fod ei hwyres fechan yn y gwely yn y llofft. Yr oedd amryw o blant yr ysgol yn bresenol ar y pryd: anturiodd un o honynt i fyny y grisiau, er gwaethaf y mwg a'r tân, a gollyngodd y plentyn i lawr drwy y ffenestr i freichiau dyn a gafai i'w dderbyn, ac yna llwyddodd i ddyfod yn ol yn ddiogel ei hunan.
Ond pwy a allai y bachgen hwn fod, a amlygodd y fath wroldeb, ac a achubodd fywyd y plentyn? Ai John ddewr ydoedd, yr hwn oedd mor barod i ymladd? Nagê, eithr Joseph, yr hwn a alwyd gan lawer yn gachgi. Mynwesai pawb o hyn allan feddyliau uchel am dano, ac ni amheuwyd ei wroldeb byth mwyach.