Tudalen:Chwedlau'r Aelwyd.djvu/24

Gwirwyd y dudalen hon

Duw yn dirion iawn o honof; mi a ddeuaf gyda chwi yn ewyllysgar."

Cymerodd y Sais ef ymaith. I'r bachgen, druan, gan yr hwn nid oedd yr un grefft, yr oedd yn ddygwyddiad ffodus dros ben. Clywsom ymhen amser maith ar ol hyn fod ei feistr wedi marw, ac wedi gadael iddo swm mawr o arian i gario ei fasnach yn mlaen, a bod "Pedr fychan" yn wr cyfoethog yn byw yn Birmingham. Parhaodd i ddweud mewn perthynas i bob amgylchiad, "Oddiuchod y daeth."

Wil a'r Pren Afalau.

DAN hen bren afalau, yn llwythog o rawn,
Eisteddai Wil fach yn yr ardd un prydnawn;
'R afalau mawr boch-goch gynhyrfent ei chwart,
Ond ofnai eu cyffwrdd a llaw nag a dant.

Nis gwn pa'm gorchymynodd fy nhad heddyw im',
"Paid, Wil, a chymeryd un afal er dim."
A phan y gofynais am un wrth ei law,
Gomeddodd yn bendant, gan ateb, "Taw, taw."