Tudalen:Chwedlau'r Aelwyd.djvu/28

Gwirwyd y dudalen hon

ddedwydd. Mae wedi myned i'r nefoedd i fyw gyda'r Gwaredwr, yr hwn sydd mor hoff o blant, ac er na ddaw ef yn ol atat ti, fe gei di fyned ato ef, os byddi yn eneth dda."

"O," meddai y plentyn truan, "nid wyf yn wylo am fyned o hono i'r nefoedd, ond am i mi ddweud celwydd arno, a'i fod ef wedi dyoddef y gosp yr oeddwn i yn ei haeddu." Ac am amser maith ni fynai ei chysuro.

Mae rhai blynyddau wedi myned heibio bellach, ac erbyn hyn y mae Betsy wedi tyfu i fyny. Ond y mae adgof y celwydd hwnw yn blino ei chydwybod o hyd. Ni chymerodd ond munudi'w gyflawni, ond nid yw blynyddoedd wedi dileu y cywilydd a'r tristwch a'i canlynodd.

O Arglwydd Dduw, bendithia fi,
A chalon bur, yn moreu f'oes,
Ac ysbryd unplyg, gonest, dewr,
Er dweud y gwir i godi'r groes.